Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Silff Lyfrau Essential Pre-University Physics (SI), gan P. M. Whelan a M. Hodgson. John Murray, Llundain, 1971. Pris: clawr caled £ 3.50, clawr papur £ 3.00. Bwriad y llyfr hwn yw darparu gwerslyfr manwl- gywir mewn un gyfrol, sy'n trafod holl egwyddorion Ffiseg sy'n angenrheidiol i'r myfyrwyr a fydd yn astudio Ffiseg yn y Brifysgol. Defnyddir unedau'r Système Internationale trwy'r llyfr ac mae'r ymdriniaeth o drydaneg yn dilyn adroddiad yr ASE (1966) ar ddysgu'r pwnc. Gadewir allan y drafodaeth ar y diod a thriod thermionig i roddi blaenoriaeth i'r dyfeisiadau hanner ddargludol. Yn y rhan sy'n ymwneud ag opteg geometrig, mabwysiedir y confensiwn fod y positif yn cyfateb i'r real. Mae'n amlwg nad yw'n bosibl mewn llyfr o'r maint hwn i roddi'r esboniadau trwyadl sy'n angenrheidiol ar gyfer dealltwriaeth addas o'r pwnc, a fe honnir bod y lluniau eglurhaol, i raddau helaeth, yn cymryd eu lle. Mae'r lluniau yn lluosog ac yn glir gydag eglurhadau llawn. Mae'r diwyg, yn gyffredinol, yn ddeniadol, mae'r nodiant yn glir ac yn gyson, ac mae'r mynegai yn foddhaol iawn. Sut bynnag, mewn llyfr a fwriedir ar gyfer dysgu, ac adolygu ar gyfer arholiadau (mae tudalen gyfan o'r rhagair yn trafod y modd i ateb papur arholiad), mae'n anffodus na chyn- hwysir dim problemau na chwestiynau. Dywedir bod cyfrol gymar ar y gweill. Bydd y llyfr hwn yn ddefnyddiol fel ychwanegiad, a bydd yn cadarnhau y wybodaeth sydd yn y gwerslyfrau lefel-A arferol. Fe wna llawer o blant elwa ar y llyfr hwn, yn enwedig yn ystod y cyfnod o baratoi ar gyfer arholiad a disgwyl mynd i brifysgol. Ni nodir y pris ar y llyfr, ond yn ôl y cerdyn oedd gyda'r llyfr, teimlaf ei fod braidd yn ddrud. GWILYM EILIAN OWEN Introduction to Genetics, gan D. G. Mackean. John Murray Cyf. (ail argraffiad). Pris: clawr papur 55c. Llyfr ar gyfer ysgolion yw hwn, yn enwedig ar gyfer cyrsiau biolegol yn y chweched dosbarth. Yn lle'r pwyslais aiferol ar etifeddeg hanesyddol Mendelaidd, defnyddir cynllun mwy cyfoes sy'n seiliedig ar fioleg y gell a'r broses fiocemegol o ddyblygu cromosomau. Fel canlyniad, mae'r wybodaeth a geir ynddo yn datblygu'n glir a rhesymegol o sylfaen gadarn. Cymerir yn ganiataol wybodaeth elfennol o fioleg, hyd at lefel-O. Rhennir y llyfr yn dair adran: dyblygiad cromo- somau, etifeddiaeth genedau, ac etifeddiaeth mewn esblygiad Darwiniaidd. Tra mae'r darluniau yn fawr a niferus, mae'r darnau ysgrifenedig yn fyr a chryno. Er y cynhwysir pob gwybodaeth angen- rheidiol, buasai'n anodd i'r disgybl wneud defnydd llawn o'r llyfr heb gryn dipyn o egluro mwy manwl ar ran ei athro; ond wedi cael dealltwriaeth o'r egwyddorion sylfaenol, dyma lawlyfr heb ei ail. RHIANNON S. WILLIAMS (Adran Bioleg Gymwysedig, Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Prifysgol Cymru) The History of Scientific Ideas; A Teachers' Guide, golygwyd gan David Steele. Hutchinson Educa- tional Ltd., 1970. Pris: clawr meddal £ 1.05. Rhwng 1960 a 1965 bu Ymddiriedolaeth Nuffield yn cynnal Uned Ymchwil i Hanes Syniadau yn Llundain. O dan y cynllun hwn cyhoeddwyd y gyfres ragorol honno ar hanes gwyddoniaeth The Fabric of the Heavens, The Architecture of Matter a The Discovery of Time gan Stephen Toulmin a June Goodfield (cyhoeddwyd gan Hutchinson ond fe'i ceir hefyd yn niwyg rhatach Pelican); cyh- oeddwyd un neu ddwy o gyfrolau eraill a nifer o ffilmiau gwych megis Time is a The Perfection of Matter. Yr oedd y gyfrol hon, sef llawlyfr athro ar hanes gwyddoniaeth, yn yr arfaeth gan yr Uned o'r cychwyn cyntaf ond oherwydd i'r Uned chwalu ym 1965 bu'n rhaid aros yn hir amdani. Bydd gan athrawon sydd yn ymgodymu â cyrsiau cyffredinol yn y chweched dosbarth neu mewn colegau technegol ddiddordeb arbennig yn y gyfrol yma. Un o fanteision hanes gwyddoniaeth fel testun ydyw y gellir ei gyflwyno i ddosbarth cymysg o wyddonwyr a chelfyddydwyr gydag amrywiol gefndir y naill a'r llall yn goleuo gwahanol agweddau arno. Fe all, wrth gwrs, fod yn destun ffeithiol nad ydyw'n apelio at y naill na'r llall; awgrym teitl y llyfr ydyw mai fel hanes syniadau y dylid trafod y testun yn hytrach nag fel hanes darganfyddiadau-sut y daeth syniad arbennig yn boblogaidd, pa syniadau eraill oedd yn cystadlu am flaenoriaeth, pam y gosodwyd syniad arall o'r neilltu, ac yn y blaen. O du'r athro prif anhawster y pwnc ydyw ei ddieithrwch; mae'n debyg ei fod yn gyfarwydd â datblygiad ei bwnc ei hun yn e; amlinelliad ond heb fod yn gyfarwydd â'r manylior sy'n rhoi bywyd i'r corff. Hyd yn ddiweddar hefyc bu prinder dogfennau gwreiddiol y gellid cyfeirit