Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Oedran y Bydysawd a'i Gynnwys Yn ôl damcaniaeth y Glec Fawr ni ddylai unrhyw an o'r bydysawd fod yn hyn nag oedran y iydysawd. Mesurwyd oedran y byd ac erbyn hyn y lleuad drwy sylwi ar raniad rhai elfennau sy'n ymddatod yn naturiol ynddynt. Mewn modd tebyg amcanwyd oedran ein Galaeth drwy ddadansoddi'r elfennau ymbelydrol a geir mewn meteorau. Hefyd o'r ddealltwriaeth o ddatblygiad poblog- aeth sêr a geir mewn galaeth a'r clystyrau crwn (gweler yr erthygl flaenorol yn y gyfres) gellir amcanu eu hoedran yn ogystal. Does 'run o'r oedrannau yma yn fwy na 2.0 x 1010 blwyddyn er fod rhai ohonynt yn weddol agos ato. Hyd at 1950 'roedd hyn yn broblem real iawn oherwydd yr adeg honno 'roedd mesuriadau o'r cysonyn H yn awgrymu mai 2 x 109 blwyddyn oedd oedran y bydysawd-llawer yn llai nag oedran y ddaear. Marwor y Glec Fawr? Rhesymir i belydrad cyflawn (black body radiation) o belydrau y, h.y. tonnau electromagnetig o amledd ac o egni uchel iawn, gael eu creu oherwydd tymheredd uchel y Glec Fawr. Erbyn hyn oherwydd y cilio parhaol ac effaith Doppler, ymostyngodd amleddau'r tonnau yma yr holl ffordc i amleddau radio, a dylid gweld pelydrad cyflawn o donnau radio yn dod o bob cyfeiriad. Dangosodd arbrofion diweddar fodolaeth y tonnau yma a bod eu tonfeddau yn dilyn rhaniad nodwedd- iadol y belydrad cyflawn. Tystiolaeth gref o blaid y Glec Fawr! Cyfrif y Galaethau Radio Pan edrychir i bellterau mawrion yn y cosmos yna gwelir stad y bydysawd amser maith yn ôl gan fod goleuni yn cymeryd cymaint o amser i'n cyrraedd. Yn ôl damcaniaeth y Bydysawd Cyson ni ddylai'r greadigaeth edrych yn wahanol o gwbl yn yr epoc cynharach. Dylai rhif ddwysedd a disgleirdeb y galaethau fod yr un ag yr ydynt heddiw. Mewn egwyddor gellid profi'r broffwydol- iaeth yma drwy archwilio'r Bydysawd hyd at eu barthau eithaf ac edrych am unrhyw newid yn eu priodeddau. Anodd yw gwneud hyn gyda'r goleuni a ddaw o'r galaethau oherwydd fe gysgodir rhai darnau o'r bydysawd gan y cymylau o'r dwst osmig — effeithiau sy'n gwaethygu fel yr edrychwn yn ddyfnach i'r gofod. Yn ffodus nid effeithir ond ychydig ar y tonnau radio a ddaw o'r galaethau radio ac mae eu cyfrif yn arbrawf cosmolegol pwysig iawn. Ni rydd y tonnau radio yma bellter y ffynhonnell oddi wrthym-rhaid wrth spectrum linell nodwedd- iadol o'r elfennau i wneud hyn a rhaid cysidro cyfundod o'r galaethau radio. Yn yr arbrofion mesurir y rhif o ffynonellau sydd â disgleirdeb radio ar y ddaear mwy na rhyw ddisgleirdeb d. Os D ydyw disgleirdeb cynhenid y ffynhonnell yna mewn Bydysawd Cyson, y nifer N o'r ffynonellau yw'r rhai sydd o fewn y pellter r i'r sylwedydd fel bo d = D/r2. Gan ein bod yn cysidro damcaniaeth lle mae'r rhif-ddwysedd (n) o'r galaethau radio yn gyson, y nifer o ffynonellau sydd â chryfder mwy na d a welir ar y ddaear yw'r rhai sydd o fewn y sffer o radius r, h.y.: #ILL e# Dengys hyn y disgwylir i'r rhif N newid yn ôl -3 2 gradd y disgleirdeb cymharol d a dylai graff o log N yn erbyn log d ddangos llinell gyda goledd o -3. 2 Eithr nid felly'r canlyniadau. Ceir tystiolaeth bendant fod y Bydysawd wedi datblygu. Nid yw'r canlyniadau ychwaith yn dilyn modelau symlaf o'r Glec Fawr ac mae lle i gredu bod hyn yn ymwneud â'n dealltwriaeth anghyflawn iawn o'r galaethau radio a'r modd mae eu priodeddau cynhenid yn newid dros y cyfnod cosmig. Eto mae'r arbrofion yn erbyn Bydysawd Cyson. Rhaniad Helium yn y Bydysawd Soniwyd yn yr erthygl flaenorol sut yr adeilad- wyd yr elfennau yng nghrombil y sêr. Er hynny ni all y damcaniaethu broffwydo fod cymaint â 25 y cant o helium yn y bydysawd. Ar y llaw arall gellir proffwydo cyflwr y cwmwl o hydrogen yn y Glec Fawr ac mae ei dwysedd a'i thymheredd yn ddigon i'r adweithiau thermonuclear danio a chreu nuclei o helium. Yn wir dengys y cyfrifiadau diweddaraf fod tua 25 y cant o helium yn cael ei greu yn eiliadau cynnar y bydysawd cyn i'r ymlediad cyson arwain i leihad yn nwysedd a thymheredd y cwmwl. Tueddir felly i gredu fod tarddiad cosmol- egol i'r elfennau hydrogen a helium a tharddiad seryddol i'r elfennau trymach.