Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

COLEG Y BRIFYSGOL, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: C. W. L. BEVAN, C.B.E., D.SC. Y mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r Coleg ym Mharc Cathays. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru (B.A., B.Sc., B.Sc.Econ., LL.B., B.Mus.). Gellir astudio'r pynciau a ganlyn: YNG NGHYFADRAN Y CELFYDDYDAU Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portwgaleg, Hebraeg, Athroniaeth, Efrydiau Beiblaidd, Hanes, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Archaeoleg, Addysg, Mathemateg, Seicoleg, Economeg, Cyfraith. Gellir cymryd gradd B.Mus. yn yr Adran Gerddoriaeth. YNG NGHYFADRAN EFRYDIAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL Economeg, Cyfraith, Athroniaeth, Cyfrifyddiaeth, Cysylltiadau Diwydiannol, Seicoleg, Gweinyddiad Cymdeithasol, Cyfarwyddo a Rheoli Gweithwyr, Gwyddor Gymdeithasol, Gwleidyddiaeth, a Chymdeithaseg Gellir cymryd gradd LL.B. drwy Ysgol y Gyfraith Caerdydd. YNG NGHYFADRANNAU GWYDDONIAETH A GWYDDONIAETH GYMWYSEDIG Mathemateg Bur, Mathemateg Gymwysedig, Ystadegau, Ffiseg, Mathemateg Gyfrifyddol, Cemeg, Llysieueg, Swoleg, Microbioleg, Daeareg, Electroneg, Anatomeg, Ffisioleg, Biocemeg, Meteleg, Mwyngloddiaeth, Peirianneg Sifil, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Seicoleg, Archaeoleg, ac Economeg. Y mae gan y Coleg neuaddau preswyl ar gyfer dynion a merched. Ceir hefyd feysydd chwarae, gymnasiwm, ac Undeb Myfyrwyr newydd i'w rannu gyda'r Athrofa. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn gan y Coleg ar sail canlyniadau'r flwyddyn gyntaf. Adeiladwyd Canolfan Cyfrifiaduron i ddal cyfrifiadur I.C.L. 4-70. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. HEOL LLANILLTYD FAERDRE, TREFFOREST, PONTYPRIDD Prifathro: D. W. F. JAMES, B.SC., PH.D. PEIRIANNEG GEMEGOL PEIRIANNEG SIFIL PEIRIANNEG FECANYDDOL AROLYGU CYFLENWAD ADEILADU ASTUDIAETHAU BUSNES CEMEG PEIRIANNEG GEMEGOL CYFRIFEG FFISEG Darperir nifer o gyrsiau proffesiynol ychwanegol i'r uchod. Gellir cael Prospectws a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd. POLITECHNIG MORGANNWG Darperir cyrsiau gradd mewn CEMEG CYFRIFEG MATHEMATEG A CHYFRIFEG ASTUDIAETHAU BUSNES Darperir cyrsiau H.N.D. mewn PEIRIANNEG DRYDANOL AC ELECTRONIG YSTADEGAU MATHEMATEGOL A CHYFRIFEG MESUR A RHEOLAETH PEIRIANNEG FECANYDDOL PEIRIANNEG SIFIL MWYNGLODDIO