Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Debygwn i AR WYDDONIAETH HEDDIW Eirwen Gwynn Tkin pynciau ar ffiniau gwyddoniaeth, fel petai, y mae amryw o lyfrau diddorol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Byddai rhai, yn ddiau, yn eu galw'n ffwlbri noeth. Dyna ymateb adolygydd New Scientist ar 'Superminds' yr Athro John Taylor, y mathemategydd o Goleg y Brenin, Llundain, sydd wedi ymddiddori yng nghampau Uri Geller ac wedi ei argyhoeddi mai nid hud-ddewinydd twyllodrus mo hwnnw. Dirmygus i'r eithaf hefyd oedd adolygiad New Scientist ar 'The Secret Life of Plants' gan Peter Tomkins a Christopher Bird, yr olaf yn fywydegydd ac anthropolegydd. Tybiaf, er gwaethaf cynnwys rhai honiadau anodd iawn eu derbyn, bod y llyfr hwn yn haeddu gwell triniaeth. Mae'n cyflwyno arolwg ar fyd y planhigion a'u perthynas â'r ddynoliaeth a hynny, fe honnir, yn ôl darganfydd- iadau diweddaraf gwyddonwyr o lawer disgyblaeth. Fe gynhwysir, beth bynnag, tua 400 o gyfeiriadau. Mae sôn yn y llyfr am blanhigion yn dangos rhywbeth tebyg i deimladau, yn ymateb i gerddor- iaeth (yn hoffi'r clasuron ond yn gwywo wrth glywed 'rock' !), yn cyfathrebu â dyn ac yn cael eu defnyddio i ganfod celwydd, ymysg llawer o weithgareddau syfrdanol eraill. Nid rhyfedd hyn hwyrach os derbyniwn ni honiad Syr Jagadis Chandra Bose, F.R.S., fod gan blanhigion, fel anifeiliaid, gyfundrefn nerfol. Gwyddonydd o Indiad oedd Bose, uchel iawn ei barch am ei ymchwil ddyfal a gwreiddiol yn ei Sefydliad Ymchwil yn Calcutta. Dywed yr Encyclo- paedia Britannica fod ei waith ym maes ffisioleg planhigion cymaint o flaen ei amser fel na ellid ei werthfawrogi'n fanwl. Ond nid y syniad fod gan blanhigion gyfundrefn nerfol oedd y peth anoddaf i'w dderbyn gen i yn y llyfr hwn eithr yr honiad bod planhigion yn medru trawsnewid elfennau yn ôl breuddwyd yr alcemeg- wyr a bod yr honiad yn seiliedig ar waith yn Rothamstead yn dangos fod planhigion fel pe'n medru tynnu o'r pridd fwy o elfennau nag sydd yn y pridd, yn arwain i'r casgliad eu bod nhw'n SAFBWYNT PERSONOL trawsnewid yr elfennau yn y pridd i elfennau eraill mwy at eu pwrpas. Ni chlywais i am hyn erioed o'r blaen. Ymddengys fod yr Athro Pierre Beranger, Cyfarwyddwr Labordy Cemeg Organig yn yr École Polytechnique, Paris, wedi dod i'r un casgliad ar ôl gwneud miloedd o fesuriadau dros gyfnod o flynyddoedd a chael eu cadarnhau hefyd gan nifer o arbrofwyr eraill. Cydnebydd yr Athro bod ei ganlyniadau yn ymddangos yn amhosibl. "Radionics" Yn y llyfr rhyfedd hwn ceir triniaeth helaeth hefyd ar 'radionics' a ffotograffiaeth 'Rirlian'. Mae yr Athro W. A. Tiller, Cadeirydd Adran Gwyddoniaeth Defnyddiau, Prifysgol Stanford, yn egluro 'radionics' fel hyn: 'Y syniad sylfaenol yw fod pob unigolyn, organeb neu ddeunydd, yn ymbelydru ac yn amsugno egni trwy gyfrwng maes unigryw o donnau sy'n arddangos rhyw nodwedd- ion geometrig, o amlder a phelydredd. Maes grym estynedig yw hwn sy'n bod o gwmpas pob ffurf ar fater, byw neu farw. Cyffelybiaeth ddefnyddiol yn y fan hyn yw'r atom ffisegol sy'n ymbelydru'n gyson ynni electromagnetig yn y ffurf o donnau oherwydd symudiad ôl a blaen ei ddeupol trydanol a'i ysgogiadau gwres. Po gymhlethaf y deunydd, cymhlethaf yw ffurf y don. Mae pethau byw, fel dynion, yn allyrru spectrwm cymhleth iawn o donnau y mae rhannau ohono yn gysylltiedig â gwahanol organau a systemau'r corff.' Techneg a ddyfeisiwyd i dynnu lluniau o'r maes hwn o ynni yw ffotograffiaeth Kirlian. Honnir bod y lluniau a geir yn gyffelyb i'r 'aura' mae rhai pobl tra theimladol yn ei weld o gwmpas pawb a hefyd bod y goleuadau Kirlian yn fflachio gryfaf yn yr union fannau ar y corff sy'n bwysig mewn 'acupuncture' (ac y mae hwnnw'n dechrau dod yn barchus yn awr !). Un a fu'n brysur ym maes 'radionics' ddiwedd y ganrif ddiwethaf oedd Dr. Albert Abrams. Datblygodd 'flwch Abrams' gan honni y medrai,