Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

trwy ddefnyddio'r offer hwn, ganfod achos gwaeledd wrth archwilio defnyn o waed y claf yr. unig. Ei erlid a gafodd gan y B.M.A. a'r A.M.A. Ond fe ddywedodd Syr James Barr amdano: bydd golygyddion meddygol a dynion meddygol yn dechrau canfod bod mwy yng nghryndodau Abrams nag a freuddwydiwyd amdano yn eu hathroniaeth.' Credoau newydd Mewn llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, Cults of Unreason, mae Dr. Christopher Evans yn ymosod yn ddidrugaredd ar 'flwch Abrams' ac ar 'Scientology', soseri ehedog a chyfriniaeth y Dwyrain. Seicolegydd yw Dr. Evans. Fe gred fod datblygiadau technegol gwyllt wedi hyrddio dyn ymlaen y tu hwnt i'w allu i addasu ei systemau o gred ac er i grefydd uniongred ddirywio, ni thyfodd ffydd diwyro mewn rhesymeg gwyddonol. Y can- lyniad yw i gredoau newydd ymddangos-sef y 'Cults of Unreason'. Gwêl Dr. Evans y rhain fel ymgais dyn i gyrraedd atebion syml a dealladwy i'r dyryswch o'i gwmpas; mae rhai yn ddiniwed ddigon, eraill yn frawychus eu dulliau a'u harwyddocâd ond y cwbl yn ddirmygedig ganddo. 'Scientology' sy'n cael y sylw mwyaf a rhaid cydnabod i mi ddysgu llawer am bwnc oedd wedi bod yn dipyn o ddirgelwch i mi cynt. Yna deuthum at ei sylwadau deifiol ar y gred mewn gwrthrychau ehedog dieithr. Dyma bwnc y gwn i ychydig mwy amdano. Gwelais fy hun (a chyfeillion gyda mi) rhywbeth cwbl anesboniadwy yn yr awyr ychydig flynyddoedd yn ôl-diau y caf gyfle i sôn yn llawnach am hyn mewn erthygl arall rhywdro. Mae dull dirmygus anwyddonol Dr. Evans o drin y pwnc o'r 'UFO's' yn peri i mi amau tybed a gafodd y pynciau eraill yn ei lyfr chwarae teg ganddo. Mae'n ddiau fod peth deunydd rhyfedd iawn yn cael ei gyhoeddi heddiw. Dyna Secret of the Ages gan Brinsley Ie Poer French, gwr sy'n credu fod pobl yn byw yng nghrombil y ddaear. Ond mae perygl fod y gwyddonwyr mwy ceidwadol yn rhoi popeth anuniongred yn yr un dosbarth â'r llyfr hwn. Ceidwadaeth Yr ydym yn hen gyfarwydd â cheidwadaeth y proffesiwn meddygol. Enghraifft ddiweddar yw adolygiad tra rhagfarnllyd yr Athro Syr David Smithers ar lyfr Josef Issels, Cancer: A Second Opinion, hwn hefyd newydd ei gyhoeddi. Ond mae hanes gwyddoniaeth hefyd yn frith o'r un agwedd ragfarnllyd a cheidwadol. Dyma a ddywedodd Syr William Crookes, flynyddoedd yn ôl, pan oedd o'n amddiffyn ei ymchwiliadau i'r radiometer: ar un adeg, gwadodd "synnwyr cyffredin dynolryw" gylchrediad y gwaed a mynnodd bod y ddaear yn ddisymud yng nghanol y bydysawd. Heddiw mae'n cynnal gwrthuni a chamgymeriadau dirifedi. Synnwyr Cyffredin yw'r enw mae dynion yn ei ddefnyddio i ddwyfoli eu hanwybodaeth. A yw gwyddoniaeth byth i fentro dros y llinell derfyn ac i ymatal bob amser rhag ymchwiliadau sy'n ymddangos yn groes i synnwyr cyffredin? Pa mor bell fyddem ni wedi ei gyrraedd mewn gwybodaeth pe bai gwyddonwyr erioed wedi cyhoeddi darganfyddiadau newydd rhag treisio y synnwyr cyffredin hwn o eiddo'r ddynolryw dysgedig ?' Mae geiriau Syr William Crookes yn gwbl gymwys i'n dyddiau ni. Chwi gofiwch y cyndyn- rwydd i dderbyn arbrofion yr Athro Eric Laithwaite ar y gyro. Eto fe gafwyd cadarnhad o'r effaith a ddisgrifiodd o fwy nag un ffynhonnell. Bu para- seicoleg yn esgymun am flynyddoedd ond erbyn hyn mae'n dechrau cael ei derbyn fel gwyddor wyddonol. Nid felly amryw o astudiaethau eraill ar y ffin. Fe dâl inni gofio mai meddyliau agored yn torri allan o gylch caeëdig meddylfryd yr Oesoedd Canol a genhedlodd wyddoniaeth fodern. Tybed a yw'r cylch-er yn gylch eangach-yn cau drachefn yn ein hoes ni a bod arnom angen hyrddiad allan o'r cylch uniongrededd hwn cyn y ceir rhagor o ddarganfyddiadau o bwys? Dywed y dyfeisydd Americanaidd, Nikola Tesla: 'Y diwrnod y dech- reua wyddoniaeth astudio ffenomenau heb fod yn faterol (physical), fe wneir mwy o gynnydd mewn deng mlynedd nag a wnaed trwy'r holl ganrifoedd blaenorol.' Gwyddoniaeth anuniongred Mae rhai gwyddonwyr wedi mentro i feysydd sydd y tu hwnt i derfynau gwyddoniaeth uniongred ac wedi dioddef cryn ddirmyg o'r herwydd. Dyna Breakthrough gan Konstantin Raudive, seicolegydd ac athronydd o Latvia. Cynnwys y llyfr hwn, a gyhoeddwyd yn 1971, ganlyniadau chwe blynedd o ymchwil i ffenomen a ddarganfuwyd ar ddamwain yn Sweden-sef cysylltu'n electronig â'r meirw. Cyn beirniadu hyn fel gwallgofrwydd, fe ddylid o leiaf ddarllen y llyfr diddorol hwn-nid ynfytyn