Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

cychwyn daeth y mwyafrif o'r arian oddi wrth y Cymry eu hunain, drwy'r pwyllgorau sy'n gweithio drwy'r flwyddyn gyda gweithgareddau o bob math. Yn am1 y mae'r cleifion sydd yn cael eu trin gan beiriannau neu gyda grafft yn helpu gyda'r gwaith. Daw'r arian i'r Sefydliad o'r pwyllgorau ac wedyn i'r Uned Ymchwil. Y mae ymddiriedolwyr y Sefydliad yn cynnwys dau o'r tri dyn busnes gwreiddiol a ddaeth i holi ym 1967, a rheolir yr Uned gan Fwrdd sydd yn cynnwys Provost yr Ysgol Feddygol. Mae'r berthynas agos hon rhwng yr Uned a'r Ysgol Feddygol yn sicrhau y gall yr Ysgol fanteisio ar y datblygiadau, ac yn sicrhau bod gyrfaoedd y gweithwyr yn cael eu helpu drwy'r berthynas. Er enghraifft, staff yr Ysgol Feddygol yw'r darlithwyr ac nid staff sy'n arbennig i'r Uned ei hun. Beth fu'r canlyniadau? Sut mae mesur gwerth adran ymchwil? Os mai trwy dynnu llinyn mesur Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru Ymgorfforwyd yr Athrofa ym Mhrifysgol Cymru ym 1967 Nifer disgwyliedig myfyrwyr ym 1980-81 2530 (is-raddedigion) 320 (graddedigion) Nifer yr is-raddedigion a dderbynnir bob blwyddyn 860 Nifer y staff academaidd 275 Neuaddau preswyl ar gyfer: 900 Cynigia'r Athrofa (a) Cyrsiau 3 blynedd llawn amser yn arwain at y graddau anrhydedd canlynol B.A. B.Sc.; B. Eng. LL.B.; B.Pharm.; B.Sc.Econ. (b) Rhyng-gyrsiau 4 blynedd yn arwain at y graddau anrhydedd canlynol B.Sc.(Tech.) B.Eng.(Tech.) (c) Cyrsiau dwy lefel: B.Sc./B.Arch.; B.Sc./Diploma mewn Cynllunio Dinesig Cynnwys y rhyng-gyrsiau 4 blynedd a'r cyrsiau dwy lefel 5 mlynedd deuddeng mis o hyfforddiant Diwydiannol/Proffesiynol mewn diwydiant, byd masnach neu wasanaeth cyhoeddus. Pynciau a gynigir: Astudiaethau Morwrol Bioleg Cemeg Cyfrifeg Cynllunio Dinesig Economeg Electroneg Fferylleg Ffiseg Gweinyddiaeth Busnes Ceir copiau o'r Prospectws a phob manylion oddi wrth Y Cofrestrydd Academaidd, UWIST, Caerdydd CF1 3NU dros nifer y cyhoeddiadau mae gwneud hyn, mae' Uned Ymchwil Arennol yn hynod o lwyddiannus Cyhoeddwyd mwy na dau gant o bapurau er 1968. Adolygiadau a phenodau mewn llyfrau yw rha: ohonynt, ond mae mwy na chant yn erthyglau gwyddonol gwreiddiol. Daeth un llwyddiant mawr oherwydd y berthynas agos rhwng yr Uned a'r Gwasanaeth Arennol yn yr Ysbyty Frenhinol. Y mae'r ffaith hon wedi sicrhau bod yr Uned Ymchwil yn canolbwyntio ar bynciau sydd yn bwysig yn feddygol ac nid yn gorbwysleisio yr ochr wyddonol. Ar yr ochr arall y mae'r Gwasan- aeth Iechyd ac yn arbennig y staff meddygol yn cael lles mawr drwy weithio gyda gwyddonwyr. Er hynny y mae'r Uned wedi llwyddo gan fod Cymry wedi rhoi ac yn parhau i roi eu ceiniogau a phunnoedd. Iddynt hwy y mae'r Uned yn perthyn mewn gwirionedd. Mathemateg Opteg Ophthalmig Peirianneg Drydan Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Gynhyrchu Peirianneg Sifil Pensaerniaeth Saesneg Seicoleg Y Gyfraith