Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

mewn oergell am 10 i 20 mlynedd hyd y bydd lle iddynt yn yr ardd. Mae'r wylan lwyd yn ymledu'n gyflym yn Llydaw megis ym Mhrydain, a gwelwyd y nythoedd cyntaf ar doeau tai-peth cyffredin yn awr mewn rhannau o Brydain. Eithaf syml yw prif achos yr ymlediad: dulliau cyfoes o greu a thrin sbwriel, e.e. tybiodd yr awdur iddo weld lluwch mawr o eira mewn dyffryn ym mynydd-dir Canol Llydaw. Pum mil o wylanod oedd mewn gwirionedd, yn hepian, gan bwyso ar ei gilydd, wedi cael pryd o fwyd da. Newidiwyd ffermdy gwag i gytiau moch a besgid ar lond lori o berfeddion ieir, o fferm-ffatri gyfagos, wedi'i wagio ar fuarth y fferm fel y gallai'r gwylanod hwythau gyfranogi o'r wledd. Disgrifir astudiaeth ar foddion i ddiogelu un o'r 'ardaloedd o gymeriad hardd' (Dyffryn Aon ger Brest). Cynigir rhannu'r ardal a rheoli'n gyfyng adeiladu dyfodol yn ôl natur pob rhan. Gwahoddodd yr Adran i Ymchwil Morloi (Caergrawnt) wr sy'n awdurdod ar forloi Llydaw i astudio morloi Ynysoedd Erch. Dysgodd lawer, yn enwedig y gallai morloi fyw ar ran helaeth o arfordir Llydaw onibai am ymyrraeth dyn. Nodir techneg i astudio dosraniad mamaliaid bychain, sef dadansoddi'r pelenni o esgyrn, blew ac ati y bydd tylluanod yn eu cyfogi wedi iddynt lyncu'r anifeiliaid cyfain. Rhifyn 90. Pwnc yr holl rifyn yw dwr Llydaw. Hyd yn ddiweddar, nid oedd llawer o anhawster ond mae dylif 1974, prinder 1976, diwydiannau a thai newydd, a datblygiad dyfrhau tir-amaeth wedi symbylu cynigiadau i godi cronfeydd mawr. Disgrifir rhai o'r cynlluniau hyn gan y swyddogion cyfrifol, ond mae ysgrif y Golygydd yn cynghori oedi ac ailystyried. Cred hwnnw fod bendithion yr amaeth newydd yn amheus; cynyddir pwys y cnydau, mae'n wir, ond nid, meddai, eu 'cynnwys- deunydd-sych'. Mae dadwreiddio gwrychoedd y llechweddau a chamlesi afonydd yn y doldiroedd yn caniatáu i'r glaw ddianc yn gyflym i'r môr gan achosi dylif a phrinder wedyn. (Disgrifir ymchwil ar yr effaith gyntaf ar ddau nant cyfgaos.) Bydd y cronfeydd yn boddi tir da, a chynllunir rhai ohonynt i fod yn bennaf plans d'eau touristiques. Gwastreffir dwr yn helaeth yn y ffatrïoedd a'r gwersylloedd-gwyliau; mae pethau'n well ym Mhrydain (medd y Golygydd). Rhifyn 91. Dadansoddir prawf capten yr Olympic Bravery, llong y llygrodd ei holew arfordir Llydaw. Cafodd gosb fechan ac yn awr capten llong 200,000 tunnell ydyw. Ychwanegir yn frysiog nodiad ar drychineb newydd yr Amoco Cadiz (sydd i fod yn unig destun Rhifyn 93). Ceir hefyd ysgrifau ar chwilod Llydaw, ar y gwymon Siapaneaidd (Sargassum muticum) sy'n ffynnu'n awr o gwmpas Ynys Wyth ac ar arfordir Normandi ac sydd, mae'n debyg, ar fedr cyrraedd Llydaw, ac ar barciau cenedlaethol Québec (a feirn- iedir yn llym). Collfernir unwaith eto y cynlluniau- egni a ddibynna ar atomfeydd (tra gobeithia'r Daniaid gael eu hegni i gyd o'r haul a'r gwynt erbyn 2050); rhoddir gwybodaeth ddiddorol am halogiad pysgod gan Windscale. Rhifyn 92. Pwnc yr holl rifyn yw 'Gofod ac annedd'. Trafodir tai Llydaw (gorffennol a phresen- nol), carafanau, parciau trefol ac effaith ffyrdd newydd ar hen bentrefi a'u hardaloedd. Ceir hefyd ysgrif ddiddorol, ond nid hollol argyhoeddiadol, ar archaeoleg ddamcaniaethol. Mynnir y gellir ac y dylid darogan hanes cyfanheddu cyntaf ardal drwy astudio'r ddaearyddiaeth leol cyn dechrau cloddio. J.P.B. Ad\entures with Electronics gan Tom Duncan. John Murray. Pris £ 1.50 Llyfr clawr meddal wedi ei anelu at blant oedran ysgol uwchradd ac oedolion sy'n ymddiddori mewn electroneg yw hwn. Mae'n cynnwys nifer o gyn- lluniau diddorol y gall y darllenydd eu hadeiladu, e.e. peiriant a all ddweud ei bod yn bwrw glaw (defnyddiol iawn i wraig y tý), intercom, radio ac amryw eraill. Â'r cynlluniau'n anos fel yr â'r llyfr yn ei flaen. Disgrifir y modd y gweithia set radio a cheir ynddo ddwy ffordd wahanol o adeiladu radio. Cyflwyna'r awdur y darllenydd i fyd y cylched-ficro a dengys ffordd syml o adeiladu radio trwy ddefn- yddio'r teclyn rhyfeddol hwn sydd mor amlwg ym mhob maes o beirianneg heddiw. Ceir ynddo nodiadau manwl ar y modd y gosodir unedau megis gwrthyddion a thransistorau wrth ei gilydd, yn ogystal â disgrifiad o'r unedau a syl- wadau ar bwrpas pob un. Dengys yn glir y modd y darllenir maint gwrthydd trwy gyfrwng y côd lliw. Yn anffodus, ar ôl prynu'r llyfr, rhaid prynu'r offer, a rhestrir cyfeiriadau nifer o gwmnïau a all werthu'r offer trwy'r post. Un o fanteision y llyfr yw fod modd adeiladu nifer helaeth o'r cynlluniau â'r un math o unedau unigol a hefyd defnyddir unedau sy'n ddigon cryf i wrthsefyll rhyw gymaint o gamdrin, e.e. defnyddir transistorau 2N3053 sy'n gallu cario cerrynt o 1 Amp. Awgryma'r awdur ddefnyddio bwrdd bychan o'r enw 'S-Dec' i osod yr unedau wrth ei gilydd, yn hytrach na sodro. O'r herwydd, nid oes angen medr arbennig i adeiladu'r cynlluniau. b.t.