Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

fod dyn yn hapusach pan fo'n gweld ac yn clywed ar yr un pryd. Mae'r miwsig electronig hwn yma i aros ac ni fydd miwsig yn hollol yr un fath eto, a bydd yn rhaid i'r glust ddynol addysgu ei hun i drin a thrafod a mwynhau seiniau newydd sbon. Gwae ni os anghofiwn fiwsig yr hen feistri ond gochelwn ar yr un pryd rhag anwybyddu gwaith cyfansodd- wyr ein blynyddoedd ni. Rhodder cyfle i Stock- hausen a Tomita a'u cyffelyb i werthu eu nwyddau tros garreg ein drws. Canys y mae ganddynt neges arbennig iawn, oherwydd y maent yn ymwneud â swn a sain nas clywyd eto ac felly rhaid i glustiau'r byd fod ar agor! Ateb i POENYN PENNA' Rhif 11: Gwyliau Gwlyb (o dudalen 5) Cafodd Bob bythefnos o wyliau. Gan osod p fel nifer y prynhawniau gwlyb a b yn nifer y boreau gwlyb gwelir fod b p = 10 8 = 2, a bod b + p = 10. O ddatrys y ddau hafaliad hyn cawn b = 6 a p = 4. Mae'n dilyn fod cyfanswm y boreau, dyweder, yn 8 + 6, sef 14. LLYFRAU I BLANT Dyn A'i Waith Golygwyd gan Mati Rees; tt. 91. 28 llun a ffigur. Clawr caled 50c. Llyfr darllen i blant yn cynnwys penodau ar Y Cwrwgl; Pysgota ar Lan y Môr; Toi; Y Chwarelwyr; Y Crydd; Y Saer; Mynd i Efail y Gof; Y Felin; Y Felin Wlân; Y Glöwr 'Slawer Dydd; Mynd i Lawr i'r Pwll Glo; Y Gweithiwr Tun (neu Alcam); ynghyd â Geirfa. 10 i 12 oed. Y Byd Byw (Rhan II) Elizabeth Stanley, Cyfieithwyd gan Stephen J. Williams; tt. 89. 19 plât. Clawr caled 75c. Llyfr natur i blant tua 11 oed. Ceir ynddo nifer o luniau diddorol a phenodau ar Y Traeth; Y Traeth Tywod; Gwrychoedd neu Berthi; Gerddi; Dirgelion y Llyn; Mynyddoedd a Rhostir. Asia Aled Lloyd Davies; tt. 93. 57 map a ffigur, 42 darlun. Clawr caled £ 2.50. Paratowyd y gyfrol yn arbennig ar gyfer disgyblion yr ysgolion uwchradd sy'n astudio daearyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ond ceir ynddi lawer o wybodaeth ddiddorol ac oriau o ddarllen difyr i bobl o bob oed. A'r cyfan yn cael ei gyflwyno'n hynod ddeniadol a graenus.' (Llais Llyfrau) Storïau Pum Munud Tt. 69. Clawr meddal 50c. Casgliad o hen bapurau'r Arholiad Llafar sydd yn ychwanegiad defnyddiol iawn at adnoddau darllen plant o 10-12 oed. Straeon Tad Hanes (Sef pigion o waith Herodotos ) Cyfieithiad rhydd gan T. Hudson-Williams; tt. 54. Clawr papur 50c. Cyfieithiad rhydd o rai o straeon y Groegwr Herodotos, lle y mae'n ymdrin â hanes ac arferion y rhan fwyaf o genhedloedd y byd fel yr adnabyddai'r awdur ef. Hanes Cymru hyd at farw Hywel Dda Tecwyn Jones; tt. xi 77. 26 llun ac 11 map. Clawr caled £ 3.95. Adargraffiad 1980 0 lyfr (a gafodd gryn glod). Fe'i bwriedir ar gyfer plant blwyddyn gyntaf ysgol uwchradd. O fewn pum pennod ddestlus, llwydda'r awdur i rychwantu cyfnod yn ymestyn o Hen Oes y Cerrig i ddiwedd teyrnasiad Hywel Dda. Cyflwynir yr wybodaeth yn llyfn ac yn glir (Llais Llyfrau) Mae'n frith o luniau uchel eu safon, rhai mewn lliw (Yr Athro) GWASG PRIFYSGOL CYMRU 6 STRYD GWENNYTH, CATHAYS, CAERDYDD CF2 4YD