Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

13T, 35S a 14C. Daeth ehangiadau pellach yn y chwedegau ac adeiladwyd labordai newydd er mwyn paratoi cemegion yn cynnwys 14C a 3H. Tua'r un pryd sefydlwyd y cyntaf o'r ddau gyflymydd sydd gan y cwmni ar hyn o bryd. Yn 1966 dechreuwyd gwerthu'r pac prawf meddygol cyntaf yn ymwneud ag inswlin a gwawriodd cyfnod newydd yn hanes y cwmni. Yn y flwyddyn ganlynol derbyniodd y cwmni am y tro cyntaf Wobr y Frenhines am allforio a chyfnewidiad technegol ­·eleni derbyniwyd y chweched wobr o'r fath. Gwelwyd rhagor o ehangu yn y saithdegau ac adeiladwyd labordai newydd er mwyn datblygu defnyddiau meddygol a chynhyrchu defnyddiau ym- belydrol yn ymwneud â fferylliaeth. Roedd gan y cwmni erbyn hyn gwmniau cynorthwyol yn yr Unol Daleithiau, yr Almaen, Ffrainc a'r Iseldiroedd ac yn gwerthu'r cynnyrch mewn mwy na chant o wledydd. Heddiw cyflenwa'r cwmni dros 2,000 o wahanol gynhyrchion ymbelydrol gyda chyfanswm busnes o tua £ 80M a rhyw 83% ohono yn dod o dramor. Y mae yna 1500 0 nwyddau yn cael eu cludo o Amersham bob dydd. Daeth yn glir erbyn dechrau'r saithdegau y byddai'r ymlediad cyflym a pharhaus yn gorfodi'r cwmni i edrych am ail gartref. Dewiswyd Caerdydd ac agorwyd y labordai newydd (Llun), a gynlluniwyd gan bartneriaeth Percy Thomas, yn ffurfiol gan yr Llun. 1. Labordai newydd Amersham International, Caerdydd Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, y Gwir An- rhydeddus Nicholas Edwards ym mis Mai 1981. I bob pwrpas mae hyn yn dyblu medr cynhyrchu defnyddiadau ymchwil y cwmni. Yn yr un flwyddyn newidiodd y cwmni ei enw o 'The Radiochemical Centre' i 'Amersham International' a throsglwyddwyd perchnogaeth y cwmni o'r Llywodraeth i anturiaeth breifat, gan roddi iddynt fwy o annibyniaeth. Dros y blynyddoedd mae amryw o wyddonwyr a chysylltiadau â Chymru wedi dal swyddi uchel yn y cwmni. Er enghraifft roedd y Dr. Charles Evans, y dirpwy gyfarwyddwr rheoli hyd ei ymddeoliad yn ddiweddar, a'i wreiddiau yn ardal Llanbedr-pont- steffan. Mae'r Dr. E. Anthony Evans, o Gasnewydd, yn awdur y llyfr safonol Tritium and its Compounds, ac ar hyn o bryd ef yw rheolwr masnach y cynhyrchion ymchwil. Evans arall, Dr. Eurof Evans, sy'n Gymro Cymraeg, yw rheolwr cyffredinol y labordai yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, dyfarnwyd teitl Athro Prifysgol Cymru i'w ragflaenydd, Dr. John Maynard, sy'n dod o Ogledd Cymru, am ei anogaeth gyson i gydweithrediad diwydiant a cholegau. Mae rheolwr polisi technegol y cwmni, Dr. John Charlton, yn dod o Gefn Mawr gêr Wrecsam; fe'i haddysgwyd yn ysgol Ramadeg Rhiwabon a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.