Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

O bryd i'w gilydd, bwriedir cynnwys adroddiadau byr yn y golofn hon am ddatblygiadau gwyddonol, mathemategol, a thechnolegol sy'n deillio o'n hysgolion neu sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith ysgol. Gwahoddir i'rgornel hon gyfraniadau ar ffurf adroddiadau (hebfodynfwy na 500 o eiriau) afyddyn amlinellu cyrsiau newydd, gwaith arloesol mewn technoleg, dulliau dysgu arbrofol neu brojectau diddorol eraill. Dylid anfon y gwaith, gyda lluniau addas os yn bosibl, at y Golygydd. CARDIAU GWAITH MORGANNWG GANOL AR WYDDONIAETH I FABANOD Hwyrach nad syndod mawr yw'r ffaith na chafodd y llyfrynnau ardderchog a gyhoeddwyd yn sgil Prosiect Gwyddoniaeth 5 13 y Cyngor Ysgolion gymaint o effaith ag a ddisgwyliwyd. Mae'n bosibl y bydd yr athrawes fabanod yn cael bod y gwaith o weithredu canllawiau o'r fath yn ymarferol yn dasg dra anodd, wrth iddi wynebu gofynion di-baid y plant sydd yn ei gofal ac, yn amlach na pheidio, wrth deimlo diffyg hyder ynglŷn â'i gallu i ddysgu gwyddoniaeth. Gan gofio hyn, treuliodd grwp bach o athrawon babanod ym Morgannwg Ganol lawer o fisoedd yn mynd ati i gynhyrchu cyfres o gardiau gwaith hawdd eu defnyddio ar gyfer eu cyd-weithwyr mewn ysgolion babanod. Oddi ar hynny, mae ffrwyth y llafur yma wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg ac mae bellach ar gael i'r holl Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru. Ffig. 1 Cerdyn gwaith a ddefnyddir ym Morgannwg Ganol PIGION O'R YSGOLION Yn y pecyn o gardiau, ceir 150 o dasgau elfennol ac maent yn rhoi i'r athrawes ffynhonnell barod o syniadau i gynorthwyo i adnabod yr ymchwiliadau gwyddonol ymarferol sy'n codi'n naturiol o weithgareddau beunyddiol yr ystafell ddosbarth. Dewiswyd yr iaith a'r cyflwyniad yn ofalus fel y gall y plant gymryd rhan yn y profiad o ddarllen, gan annog y rhai mwy galluog i ddarllen drostynt eu hunain. Er bod y pecyn wedi'i rannu yn nifer o themâu â chôd lliw, bwriedir i'r athrawes ddewis yn agored o blith yr holl gyfres er mwyn defnyddio'r rhai sydd fwyaf perthnasol i'r testun neu'r prosiect dan sylw. Mae llawer o athrawesau'n betrus rhag ymdrin â gwyddoniaeth am eu bod yn ofni'r hyn na wyddant amdano. Ofnant ehangder dibendraw y maes gwyddonol, gan hel atgofion arswydus am yr adeg y buont yn ymrafael â chymhlethdodau Deddf Boyle a rheol y llaw dde gydag anwythiant electro-fagnetaidd! Mae'r cardiau'n gymorth i ddileu llawer o'r cymylau llwyd hyn, gan ddangos mai eu tasg nhw, ar lefel babanod, yw cynorthwyo'r plant yn y broses o ganfod atebion i'r cwestiynau a ofynant yn naturiol am eu hamgylchfyd. Daw medrau megis sylwi, trafod, holi, profi, dehongli, cymhwyso a chyfathrebu mor naturiol i'r athrawes ag i'r plentyn. Y cwbl a wna'r cardiau yw rhoi cymorth drwy ddarparu'r union syniadau ynglŷn â phryd a lle i ddefnyddio'r medrau hynny. Cynorthwyant yr athrawes i ganfod y cyfle sydd dan wyneb trefn feunyddiol yr ystafell ddosbarth i ymdrin yn wyddonol â thestunau. Gellir bob amser feirniadu cardiau gwaith am eu bod yn pennu'r gwaith yn rhy fanwl ac mae'n fwy na thebyg nad yw'r rhain yn eithriad. Fodd bynnag, er yr ymddengys fod cynnwys cerdyn yn pennu'r gwaith yn fanwl, mae'n anochel y bydd llawer o agweddau nad oeddent ar y cyntaf yn amlwg yn codi cyn gynted ag yr â plant ati i archwilio mater. Bydd y plant ohonynt eu hunain yn gofyn llawer o gwestiynau nas rhagwelwyd, fel y bydd y plentyn a'r athrawes yn rhydd i ddefnyddio eu gallu i ymchwilio wrth ganfod atebion. Y dull hwn o chwilio am atebion, yn hytrach na'r atebion eu hunain, sy'n cyfrif. Beth bynnag, dim ond cyflwyniad yw'r cardiau, i gynorthwyo i glirio'r ffordd ar gyfer darganfyddiadau mwy gwreiddiol. Cynorthwyant lawer i ddysgu cropian cyn cerdded! Dangosir cardiau enghreifftiol. Defnyddir y cardiau'n helaeth ac yn frwdfrydig yn ysgolion Morgannwg Ganol. Gwahoddir Awdurdodau Addysg Lleol eraill sydd â diddordeb mewn prynu swmp i gysylltu â'r Cyfarwyddwr Addysg, Neuadd y Sir, Caerdydd CFl 3NF. Mae hefyd yn bosibl y bydd y fersiwn Saesneg ar gael drwy gyhoeddwr cenedlaethol yn y dyfodol agos. PETER PEARSON Ymgynghorydd Astudiaethau'r Amgylchfyd Cyngor Sir Morgannwg Ganol