Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ieithoedd Modern Ysgol David Hughes, Porthaethwy, gyda chyfraniadau o'r Unol Daleithiau, megis pennod ar LOGO gan Harold Abelson o MIT. Mae nifer y llyfrau yn y maes hwn yn cynyddu'n ddyddiol a phob cwmni cyhoeddi'n mynnu rhan o'r farchnad. Ond os am lyfr sy'n ceisio edrych ar y sefyllfa yn feirniadol ac yn adeiladol o safbwynt yr addysgwr, nid oes fawr sy'n rhagori ar y llyfr hwn ar hyn o bryd. Os cyhoeddir copiau clawr-meddal yn ddiweddarach, cawn obeithio gweld y pris yn gostwng fel y bydd o fewn cyrraedd pob ysgol uwchradd a chynradd. H.G.Ff.R. Test your Biology/Questions a Test your Biology/ Answers gan C. J. Clegg ac A. F. Pound. John Murray, Llundain. Pris: (Questions) fl.90, (Answers) £ 2.50. Amcan y llyfrau hyn, yn ôl y broliant, yw rhoi digon o ymarfer i'r disgyblion ar gyfer yr arholiadau lefel 'O' a 'TAU' i ateb cwestiynau strwythurol nad ynt angen ond atebion byrion. Honnir y gellir asesu nid yn unig eu gwybodaeth a'u dealltwrieth o gysyniadau bywydeg a ffeithiau, ond, hefyd, sut mae disgyblion yn dygymod â sefyllfaoedd gwahanol a'r agwedd ymarferol i fywydeg. Yn y deng mlynedd diwethaf mae yna gryn newidiadau wedi bod yng nghynnwys y maes llafur ac yn y dulliau o gyflwyno'r pwnc. Yn sgîl hyn daeth asesu mwy trylwyr a Hanes yr Haul a'r Sêr-ll CYN TROt at einioes seren, trown at un o agweddau pwysicaf astudiaeth datblygiad y sêr, sef darlun Hertzsprung-RusselI-tipyn o lond ceg y bydd seryddwyr yn cyfeirio ato fel 'darlun H-R'! Gwelwn o hafaliad (1) fod perthynas i'w disgwyl rhwng llewychiant y sêr a'r tymheredd ar eu wyneb-cyn belled â bod y radiws yn gyson o seren i seren. Gallwn brofi hyn drwy ddefnyddio ein gwybodaeth am y sêr nesaf at yr haul, y ser hynny y mae eu llewychiant yn gyfarwydd i ni (gweler Gwyddonydd XXII, 2). Mae darlun H-R ar gyfer y sêr hyn i'w gael yn Ffig. 1. Sylwch fod echel y tymheredd yn cynyddu, am resymau hanesyddol, o'r dde i'r chwith. O ganlyniad mae mwyafrif y sêr i'w cael ar linell sydd yn ymestyn yn groeslinol o ben chwith y darlun i lawr tuag at y dde. Y rhain yw'r sêr prif ddilyniant, a gwelwn fod yr haul yn eu plith. Sylwch yn enwedig fod rhai sêr i'w cael oddi ar y prif ddilyniant a gadewch i ni droi yn gyntaf at y sêr hynny sydd ar ben y darlun ar y dde. Mae'r tymheredd ar wyneb y sêr hyn yn isel-oddeutu 3000°C— ond mae eu llewychiant yn eithriadol o uchel. Gallwn ddeall hyn os ydyw radiws y sêr yma yn enfawr (cymherwch â hafaliad (1)): sêr cawr cochion yw'r rhain. Ar y llaw arall, ar waelod y darlun ar y chwith y mae sêr di-lachar i'w cael, chwestiynau y gellir eu marcio'n wrthrychol. Dyma yw nod y llyfr yma ac mae wedi ceisio cyffwrdd â phrif feysydd y cwrs 'O' a 'TAU'. Ers blynyddoedd bellach fe geir llyfrau profi yn yr holl bynciau gwyddonol sy'n rhoi rhagflas o'r arholiadau terfynol eu hunain. Ond mantais hwn yn anad dim yw y ceir atebion yn yr ail gyfrol. Mae'n bwysig i'r disgyblion gael cwestiynau strwythurol cyson. Ond yma gall y disgybl gymharu ei atebion â'r rhai sy'n yr ail gyfrol. Ceir adran o tua 18 tudalen yn gyfangwbl ar ddarluniau bywydeg yn cynnwys lluniau microsgop sy'n aml yn ymddangos mewn papurau arholiad. Mae penawdau eglur yn y llyfr yn dangos y gwahanol adrannau. Gresyn fod nifer o'r adrannau pwysig a'r rhai sy'n rhoi trafferth i'r egin fywydegwyr yn hynod brin eu sylwedd. Ceir dwy dudalen ar gyfer ffotosynthesis yn cynnwys cwestiynau elfennol. Yn aml ceir arbrofion wedi'u gosod yn eiriol yn unig heb luniau i'w dadansoddi. Mae dadansoddi tablau hefyd yn brin. Mi fyddai nifer o ddisgyblion 'TAU' yn cael trafferth i ddygymod â'r cwestiynau geiriol helaeth. Y cwrs cyfun CS sydd yng Nghymru bellach ac fe ddisgwylid cwestiynau llawer mwy treiddgar gan fod safon yr arholiad yma'n ymddangos yn uwch na'r 'O' a'r 'TAU'. Ond wedi deud hynny mae'n sicr y bydd defnydd i'r ddau lyfryn wrth i'r disgyblion gael eu paratoi ar gychwyn dosbarth 4. MELFYN WILLIAMS Ysgol y Gader ANEURIN EVANS ond mae'r tymheredd ar eu hwyneb yn uchel-tua 10000°C. Felly sêr bychain, sêr corrach gwynion sydd i'w cael yn y gornel hon. Gwelwn ar fyr o bryd mai sêr hynafol yw'r sêr cawr a chorrach hyn, sydd wedi gorffen eu hoes fel sêr prif ddilyniant. Sylwch nad sêr hynafol ydynt o ran oedran, ond hynafol yn ôl eu datblygiad; cofiwch mai mas seren sy'n penderfyn faint o amser mae seren yn parhau, ac yn parhau fel seren prif ddilyniant. I'n galluogi i ddehongli'r darlun H-R, rhaid i ni ofyn: beth sydd yn digwydd i'r heliwm a gynhyrchir yn y broses sydd yn cynnal tywynnu'r haul? Nid yw seren prif ddilyniant mewn sefyllfa i ddefnyddio'r heliwm i greu ychwaneg o ynni ac mewn amser mae'r heliwm, fel rhyw ludw niwclear, yn dechrau casglu yng nghanol y seren. Yn wir, mae'r darn hwnnw o'r seren sy'n cynhyrchu'r ynni yn dechrau symud yn raddol tua'r wyneb, a'r heliwm di-ynni sydd i'w gael yng nghanol y seren (gw. Ffig. 2). Cyn gynted ag y daw'r sefyllfa yma i fodolaeth mae'r cydbwysedd manwl y cyfeiriwyd ato eisoes, rhwng disgyrchiant ar i lawr a'r pwysedd ar i fyny, yn dod i ben: mae pwysedd y nwy poeth yn dod i rym. O ganlyniad mae haenau uchaf y seren yn chwyddo allan ac yn claearu, i greu seren gawr goch.