Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ffig.2. Bras amcan o ddosbarthiad genyn grwp gwaed B ym mhoblogaeth wreiddiol y byd. rhaid mudo cymaint ag o'r blaen. Rhoddodd y newid o drefniant llwythol i un cenedlaethol hwb pellach i hyn. Hyd yn oed heddiw mae'n bosib darganfod gwahan- iaethau genynol arwyddocaol mewn amledd genyn, hyd yn oed rhwng pentrefi cyfagos o'r un llwyth. Hyd at tua 3,000 CC 'roedd poblogaeth ynysoedd Pry- dain oddeutu 30,000. Helwyr-gasglwyr yr Oes Cerrig Ddiweddar (Palaeolithig) oedd y bobl hyn. Yn ystod yr amser yma 'roedd y boblogaeth wreiddiol, yr Iberiaid, yn sefydlog yng Ngorynys Iberia (Sbaen a Phortiwgal). Yr oeddynt hwy, mae'n bur debyg, yn wreiddiol o Ogledd Affrica ac wedi mudo allan o'r fan honno pan sychodd y Sahara. O 3,000cc ymlaen, cyrhaeddodd ton ar ôl ton o ffermwyr o Ewrop, ac ychwanegwyd at y cyfanswm genynnol yma, a oedd eisoes yn gryn gymysgedd, gan fewnfudiadau diweddarach o bobl Geltaidd yn ystod yr Oesoedd Efydd a Haearn. Ymysg olion archaeolegol y cyfnod Cyn-Rufeinig, cawn gofadeil megalithig, ac mae'n debyg fod eu hadeiladwyr hwythau wedi cyfrannu at y cymysgedd hefyd. POENYN PENNA' Rhif 33: GWYLIAU GWYLLT (o dudalen 91) Cymorth: Cyn darllen yr ateb llawn isod, ystyriwch eto ba lythrennau sydd yn y geiriau sy'n cyfeirio at y ddwy wlad. Ateb: Yn y wlad y bu Llew iddi mae pob gair yn cynnwys llythyren ddwbl. Nawr fedrwch chi ddarganfod cyfrinach gwlad Siân? Yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid mae'n debyg i'r cymys- gedd genynnol gynyddu ymhellach, ac erbyn i'r Rhufein- iaid ymadael 'roedd y boblogaeth wedi cyrraedd tuag un miliwn. Cyrhaeddodd y Sacsoniaid yn nechrau'r Canol Oesoedd gyda'u cyfraniad enfawr hwy o enynnau i'r bobl- ogaeth, a chan erlid y diwylliannau cynharach, a'u genynnau, yn bellach i'r Gorllewin a'r Gogledd. Cynyddwyd yr heterogenedd gyda dytodiad y Llych- lynwyr a goresgyniad y Normaniaid. O'r amser hynny, hyd at yr Ail Ryfel Byd, ni fu cyfraniad allanol pwysig arall, ond ni lwyddwyd i gyrraedd homogeneiddrwydd yn ystod y cyfnod, yn unman ond y trefi pan gyrhaedd- odd y Chwyldro Diwydiannol. Felly, dengys sefyllfa y gyfres gwaed ABO, yn Ynys- oedd Prydain, amleddau genyn nad yw'n annhebyg i'r grwpiau a gyrhaeddodd yn ystod hanes y wlad. Mae'n amlwg nad oedd yr adgymysgiad yn ddigon cryf, mewn cymdeithasau cymharol unig, i guddio'r digwyddiadau hanesyddol.