Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Laennec a'i Stethosgôp II MAE'N briodol iawn nodi enwau tri o Gymry a fu'n ymweld â Laennec, ac a ddaeth i gyfathrach pur agos ag ef. Y cyntaf vn nhrefn amser oedd Thomas Davies (1792- 1839), vn enedigol o Gaerfyrddin. Ef oedd gyda'r cyntaf i ddod â'r stethosgôp i Lundain, ac fe ddywedir yr adwaenid effel 'Doctor Corn'. Cyhoeddodd yntau gyfrol bwysig Lectures on Diseases ofthe Lungs and Heart ym 1835. Yr un fu patrwm ei fywyd â'r lleill; bu farw yn saith a deugain mlwydd oed. Cadwyd traddodiad y teulu mewn dull nodedig trwy i'r tad Thomas, ei fab Herbert (1818-1885), a'i wyr Arthur (1858-1929), weithredu fel ffysygwvr vmgynghorol ar staff yr Ysbyty Brenhinol ar gyfer Afiechydon v Frest yn Llundain am gyfnod o vmron i gan mlynedd. Llun 1. 'Doctor Corn'. Nid oes sicrwvdd pa bryd yn union yr aeth Thomas Davies i Baris, ond mae'n amlwgei fod yno cyn i Laennec fvnd vn ddifrifol wael. Crybwyllwyd eisoes ddiddordeb Laennec yn y Llydaweg, iaith ei blentyndod, ac y mae tvstiolaeth iddo estvn ei astudiaeth i'r ieithoedd Celtaidd eraill. Mewn perthynas â hyn tra arwyddocaol oedd dod o hyd i'r frawddeg yma yng nghyfrol Thomas Davies. Dvfvnnir hi vma heb ei chyfieithu: 'Laennec was much attracted to antiquarian pursuits particularly relating to the dialect of his own province [Brittany], and nothing pleased him more than to meet a Welshman for the purpose of conversing with hini and comparing Armorican [the Breton language] with the ancient British tongue [Welsh]. EMYR WYN JONES Charles James Blasius Williams Llun 2. Ffysygwr y Frenhines Victoria. Cymro arall a ymwelodd â Laennec, tua 1825 mae'n debyg, oedd Charles James Blasius Williams (1805- 1889), gŵr â'i wreiddiau teuluol yn Swyddffynnon, ger Tregaron, Dyfed. Tra eto'n ifanc cyhoeddodd y disgrifiad cyntaf o arwyddion clinigol crebachiad y falf ddwylen (mitral), yr achos cyntaf o adferiad llwyddiannus o friw trywanol o'r galon, ac ef oedd y cyntaf i groniclo'r cyflwr chwim guriad vsbeidiol paroxysmal tachycardia, a'r cwbl yn ei gyfrol Diseases ofthe Chest (1835). Dilynwyd hon gan Principles of Mediane (1843). Cafodd oes faith a daeth ymron i bob anrhydedd i'w ran, gan gynnwys bod yn Ffysygwr i'r Frenhines Victoria. Mae dwy elfen o ddidd- ordeb arbennig yn perthyn iddo yn y cyswllt presennol. Mae ar gadw cartwn rhagorol a dynnodd o Laennec, ac fe'i hatgynhyrchir yma; ac fe gadwodd stethosgôp a wnaed gan Laennec sy'n awr mewn cadwraeth ddiogel yng Ngholeg Brenhinol y Ffysygwyr yn LIundain crair gwerthfawr ryfeddol.