Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Bûm yn teithio'n gyson i wledydd y Dwyrain Pell ers ugain mlynedd bellach a phob tro byddaf yn rhyfeddu am faint y datblygiad yno. Fis Awst methais â mynd i Eisteddfod Aberystwyth gan fod gwaith yn galw yn y Pilipinas a Malaysia. O fewn pythefnos o ddod yn ôl, roeddwn ar fy ffordd eto i China. Yn Ewrop, ni fu sôn ond am broblemau'r economi a'r bunt, am ddiweithdra a digalondid. Mae Gwasanaeth y Byd (BBC) ar gael bellach bron ymhob gwesty yn Asia a chaiff rhaglenni fel Panorama a Newsweek eu hail- ddarlledu yno. O'u gwylio ym Malaysia, teimlais y cyferbyniad, y tro yma, gymaint yn waeth: ter- fysg yn yr Almaen, rhyfel cartref yn yr hen Iwgoslafia, amheuaeth yn tyfu drwy Ewrop am ddyfodol y Gymuned a'r cydweithrediad arian- nol (EMS) yn cael ei chwalu. Daethom i dderbyn bod y dirwasgiad yn Ewrop ac America yn anochel bron. Yn sicr, nid oes gan lywod- raethau'r gwledydd gorllewinol y syniad lleiaf sut ihybu'r economi. Gwelsom y naill ddiwydiant ar ôl y llall yn cael eu malu. Digon hawdd gostwng chwyddiant pan nad oes unrhyw weithgarwch economaidd, a thair miliwn o weithwyr yn segur. Felly hefyd, y mae yn y fynwent; tawelwch, galar a marwolaeth. Ond, os tynnu i lawr yma, mae codi draw. Mae ffyniant, brwdfrydedd ac egni i'w canfod ar draws De-Ddwyrain Asia. Yn sylfaen i hyn y mae'r boblogaeth yn ifanc, y mwyafrif o dan 25 mlwydd oed. Eu gobeithion nhw sy'n tanio'r economi. 'Adnoddau Dynol i Adeiladu CeneaT oedd tes- tun a osodwyd i mi ei drafod yn Chweched Gynhadledd Genedlaethol Malaysia ar wyddon- iaeth a thechnoleg. Gallwn dystio'n onest yno i ymlyniad y wlad egnïol hon i addysg a hyffor- ddÌÊit eu pobl ifanc. Ar ddechrau'r 70au, dim ond un brifysgol oed yno, sef yr hen brifysgol ymerodraethol, prif, sgol Malaya. Tra bod y brifysgol gened- ketî ol (Prifysgol Kebansaang) yn cael ei hadeil- adu daeth llif o fyfyrwyr i brifysgolion Prydain. Ar n adeg, roedd 62,000 yma a ninnau ym Mhi fysgol Salford yn cael cyfran helaeth o'r Golygyddol cemegyddion. Sefydlwyd dolen rhyngom sydd wedi parhau hyd heddiw, ac Athrofa Gogledd- Ddwyrain Cymru yng Nghlwyd yn cadw'r cysylltiad bellach ar lefel ymchwil, gan fod y brifysgol ym Malaysia bellach yn medru gofalu am addysg ei myfyrwyr ei hunan. Tra oeddwn yno eleni cyhoeddwyd bod yr wythfed brifysgol i'w sefydlu yn Sarawak, ac un o'm hen fyfyrwyr, yr Athro Zawawi, yn brifathro ami. Yn ogystal, datblygwyd addysg ar bob lefel; ysgolion, colegau a sefydliadau politechnig. Mae'r budd- soddiad yma mewn addysg bellach wedi dwyn ffrwyth. Nid gwlad dlawd mo Malaysia, wrth gwrs. Mae yno adnoddau naturiol anhygoel: olew, coed, rwber, mwynau ac yn awr mae'r bobl ganddynt i'w datblygu. Gynt, eu hallforio i gyn- nal economi Prydain a wnaeth y gyfundrefn ymerodraethol, ac rydym yn parhau i deimlo'r golled. Bu yno arweiniad cadarn a chyson o dan awdurdod y Prifweinidog, Dr Mahathir. Y nod bellach yw'r flwyddyn 2020, pan anelir at greu gwlad gwbl ddatblygedig a hunangynhaliol. Mae cynllunio gofalus a buddsoddi doeth yn creu'r teimlad ymhlith y brodorion fod popeth yn bosibl. Mor braf oedd clywed trafod rhagolygon y dyfodol yn frwdfrydig a disgwylgar. Yn China roedd y sefyllfa'n fwy llewyrchus a ffyniannus nag a gofiais erioed o'r blaen. Mae Deng Xiaoping, bellach, wedi gorchfygu'r Ceid- wadwyr ac er mewn oedran teg, mae'n teithio'r wlad yn pregethu menter a chyfle i unigolion a chymdeithas. Dyfynnaf o atodiad busnes y China Daily: Cynyddodd cynnyrch diwydiannol China 19 y cantyn ystod saith mis cyntaf 1992, a hyn yn cymryd chwyddiant i ystyriaeth. Cyrhaedd- odd 1,5591 biliwn yuan ($US 283.6 biliwn). Y rheswm, meddir, am y cynnyrch sylweddol yma yw'r galw a wnaeth Deng Xiaoping ym mis Ionawr eleni, am ddiwygiad dewr yn y gyfun- drefn economaidd. Dros y cyfnod cynhyrchwyd 583,900 o geir, sydd 48.3 y cant yn fwy na'r llynedd, 16 miliwn o setiau teledu, 4.4 miliwn peiriant golchi a 3.1 miliwn rhewgell. Efallai'n fwy arwyddocaol na'r ffigyrau hyn, sydd yn