Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TALIESIN. "Tri pheth y dylai Cymro ei garu o flaen dim: Cenedl y Cymry; Defodau a Moesau y Cymry; ae Iaith y Cymry." Rhif. 1. MAI, 1859. Ctp. I. EHAGAEWEINIAD. " Ctmrt ftj, Ctmrt iydd." T mae tri chant ar ddeg o flynyddoedd wedi myned heibio weithian er pan, dan ddylanwad ysbryd proffwydoliaethol, y llefarodd y Bardd y geiriau uchod. Er bod ymosodiadau gormesol y Saeson yn taenu cwmwl têw tros yr ben wlad, cofiai Taliesin fod ei gydwladwyr ar ol caetbiwed bir y Rhufeiniaid—dros bedwar cant o flynyddoedd—wedi ymryddbau eto yn y diwedd, ac adferu eu tir, eu biaith, a'u defodau, pryd yr oedd cenedl yr estroniaid yn myned yn ddrylliau. Pam* nad felly y dygwydd iddynt y'ngwyneb pob rbuthr a wneir ar eu hanymddibyniaetb ? A oes lle i gasglu y bydd y Saeson a'r Normaniaid yn fwy llwyddianus ? Torrwyd gallu y rhai blaenaf byn mewn un dydd ar faes Hastings, o. c. 1066. O hyny aÜan caethweision fuont i'r Norman- iaid; y rhai byn oedd y meistriaid—oddiwrthynt hwy y deilliai y llywodraeth. Ac er i'n hynafìaid ni deimlo eu hawdurdod i raddau mwy neu lai; eto edrychent y'mlaen yn wastad at ryw ddydd, pryd y deuai Cymru eto yn ben. Yr oedd eu Beirdd a'u Brudwyr yn eu cysuro o hyd drwy gyhoeddi " Cymry fu, Cymry ptdd,"—daw yr amser pryd yr adferir yr hen Hnach Gymraeg. A'r amser hwnw a ddaeth. Ar faes Bosworth yn y flwyddyn lé85, gorch-