Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y LLENOR. Ehif. 4.] EBPJLL, 1860. [Cyfrol I. Y DIWYGIAD PRESENOL YN EI GYSYLLTIAD AG AMERICA. [Parhad o tu dal. 51.] GAN Y PARCH. JOHN OWEN, TY'N LLWYN. Bu yr hen gyfandir yn gartrefle dyn a'i hynodion am ysbaid maith. Rhieni cyntaf dynolryw a drigasant ynddo. Yno y trigodd Noah a'i feibion. Yno y ganwyd yr ail Ädda—y croeshoeliwyd ef, ac y cyfododd oddiwrth y meirw. Ac y mae yn debyg tuag at gyfartalu y rhagorfreintiau hyn, y bydd i adnewyddiad mwyaf gogoneddus crefýdd gael ei gychwyn ar y cyfandir newydd; ac y bydd i Eglwys Dduw yn yr ystyr hono ddyfod oddiyno. tìellir meddwl y bydd yn debyg gyda golwg ar America o ran pethau ysbrydol i'r hyn a fu mewn pethau tymhorol. Hyd yn ddiweddar yr oedd y byd yn cael ei ddiwallu o aur ac arian, a thrysorau daearol, gan yr hen fỳd; yn awr diwellir ef yn benaf gan y newydd. Felly gellir dysgwyl cyf- newidiad cyffelyb mewn pethau ysbrydol. Ac y mae yn deiíwng o sylw fod America wedi cael ei dargaufod tua dechreuad y Diwygiad Protestanaidd, neu ychydig cyn hyny. Y Diwygiad hwn oedd y peth cyntaf a wnaed gan Dduw tuag at ddwyn yn mlaen adnewyddiad çogoneddus y byd wedi iddo suddo i ddyfnderoedd tywyliwch a dinystr, trwy y gwrthgiliad mawr annghristaidd. Felly mor fuan ag y daeth y byd newydd i'r golwg, cawn fod Duw yn gwneyd pethau mawrion tuag at ddwyn ei Eglwys i'r golwg ynduo, yn ngogoniant mawr y dyddiau diweddaf. Pan y mae Duw yn dwyn yn mlaen ryw waith mawr yn y bjà tuag at ddyrchafu ei Eglwys, ei arfer yw dechreu lle na byddo un rhag-barotoacì blaenorol, fel y byddo i'w allu mawr ei hunan fod ÿn fwy eglur, ac yr ymddangosai y gwaith yn hollol yn eiddo Duw, ac y byddai ynfwy amlwg yn greadigaeth o ddim, yn ol Hos. i. 10: "A bydd yn y man lle y dywedwyd wrthych, Nid pobl i mi ydych chwi, y òlywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych." Pan y bydd Duw ar droi v ddaear i fod yn baradwys, nid yw yn dechreu gweithio lle y mae rítyw gymaint wedi ei wneyd yn barod, ond yn yr anialwch, Ue ni wnaed dim, ac nad oes dim i'w