Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y LLENOR. Rhif. 9.] MEDI, 1860. [Cvfrol I. PA BETH YW HENADURTAETH? [PARHAD O RHIF. VIII. TU DAL. 173.] GAN Y PARCH. CHARLES HODGE, D.D., AMERICA. CYFIEITHIEDIG GAN MR. MORRIS DAYIES, BANGOR. II. Ail egwyddor fawr Henaduriaeth yw, mai henuriaid, y rhai sydd yn gweini yn y gair a'r athrawiaeth, ydynt y swyddogion parhaus uchaf yn yr Eglwys. 1. Ein sylw cyntaf ar y mater hpuyw fod y weinidogaeth yn swydd, ac nid gwaith yn unig. Sefylifa ydyw swydd y mae yn rhaid i'r hwn sydd yn ei llenwi gael ei appwyntio iddi, yr hyn sydd yn cynwys rhyw ragorfreintiau y dylai y rhai y perthyna iddynt eu cydnabod ac ymddarostwng iddynt. Ar y llaw arall, gwaith sy rywheth y gall unrhyw ddyn ymgymeryd âg ef sydd yn meddu y gallu i'w wneuthur. ¥ mae hyn yn wananiaeth amlwg. Md pob un sydd yn meddu ar gymhwysderau i fod yn Llywydd Talaeth, sy ganddo hawl i weithredu fel y cj fryw. Rhaid iddo gael ei appwyntio yn rheol- aidd i'r swydd. Felly nid pob un y mae ganddo gymhwysderau i waith y weinidogaeth, a all gymeryd arno swydd y weinidogaeth. Ëhaid iddo gael ei appwyntio yn rheolaidd. Ymaehyn yn eglur; (1) oddiwrthyr enwaua roâdir yn ỳr Ysgrythyrau i weinidogion, y rhai ydynt yn arwyddo sefyllfa swyddol. (2) Oddiwrth fod eu cymhwysderau yn cael eu nodi allan yn ngair Duw, a'r modd i farnu y cymhwysderau hyny yn cael ei osod ger bron. (3) Oddiwrth y gorchymyn pendant i appwyntio i'r swydd yn unig y rhai, ar ddyledus brawf, a geir yn gymhwys. (4) Oddiwrth y cofFadwriaeth o'r cyfryw appwyntiad yn ngair Duw. ( 5) Oddiwrth yr awdurdod s\vyddol a gj'frifir iddynt yn yr Ysgrythyrau, a'r gorchj^myn ar fod y gyfryw awdur- dod yn cael ei d} ledus gydnabod. Afraid i ni resymu y pwynt hwn ddim yn mhellach, gan nad yw yn cael ei wadu, oddieithr gan y Crynwyr, a rhai ysgrifenwyr megys Neander, a fwriant heibio bob gwahaniaeth rhwng y gwŷr llen a'r lleygion, ond sydd yn cyfodi oddiar amiywiaeth doniau. 2. Yr ail sylw yw, bod y swydd o appwyntiad dwyfol.- nid yn unig yn yr ystyr y mae yr awdurdodau gwladol wedi eu hordeinio gan Dduw; ond yn yr ystyr fod gweinidogion yn derbyn eu hawdurdod oddiwrth Grist, ac nid oddiwrth y bobl. Y mae Crist nid yn unig wedi ordeinio bod y cyfryw. swyddogion i fod yn ei Eglwys,—nid yw yn unig wedi nodi allan eu dyled- swyddau a'u rhagorfreintiau,—ond y mae yn rhoddi iddjmt y cymhwysderau