Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYMRO. "A oes gwr na ddengys gariad.—l iaith ddilediaeth ei WladJ' Rhif. 3. MAWRTH, 1830. Pris 4c. CYFIAWNDER. (Parhad o tudalen 19, Rhifyn 2J Cyfiawnder Duwydywawyddfrydhanffod- ol y natur ddwyfol, i osod cyfreithiau cyson fel y llywodraethwr goruchaf, ac i gyfranu copedigaethau a gwohrwyon fel y barnwr penaf. Fe arlwya rheswm a dadguddiad fil o amlygiadau hyfryd o fod a chyfiawnder Duw. I. Ymddengys ei fod yn gyfiawn, oddi- wrth anfeidrol ddedwyddwch ei natur. Mae ganddo y boddlonrwydd uwchaf yn ei fod- oliaeth ei hunan; nid oes eisiau dim arno— nid oes ganddo ddim i'w ofni, na dim i obeithio am dano; nis gellir ei arswydo gan allu uwch i wneyd ar gam; a'r cyfryw ydyw uniondeb ei natur, fod ganddo duedd anwrthwynebol i wneyd yn iawn. II. Y rheol ddigyfnewid, a mesurau ei holl weithredoedd yn y nefoedd, daear, ac uffern, a ddangosant ei fod yn gyfiawn. Oddiwrth gyfiawnder ni chyfnewid efe am un foment, mewn unrhyw siampl o'i ym- ddygiad. III. Y cyfreithiau rhesymol, cyfiawn, a chysson, a roddodd i ddynolryw, y rhai oeddynt yn wreiddiol ysgrifenedig ar y natur ddynol, a ddangosant yn eglur gyfiawnder Duw.—Rhuf. ii. Mae'n anmhosibl i gyf- reithiau fod yn fwy rhesymol, yn fwy un- ion, ac yn fwy cyfartal na y rhai a roddodd i'n heneidiau a'n cydwybodau. IV. Ei reol gyfiawn yn tynu dull ein dyledswydd, yn y fath fodd ag i'w gwneuthur yn y modd mwyaf hyfryd, esmwyth, a chyfatebol, a ddengys ei gyfiawnder yn y goleu mwyaf hawddgar. V. Efe a gymhwysodd ein dyiedgwydd mewn raodd tirion at ein dedwyddwch mwyaf urddasol, yr hyn sydd yn gwneuthur cyflwr o ufudd-dod, y peth mwyaf caruaidd yn y byd, i bob dyn adnabyddus o werth ei enaid a'i elw penaf ac anwylaf ei hun. Diau efe a'n cymhell i gofio Duw ein Creawdwr yn nyddiau ein ieuenctyd, yr hyn yw y ffordd oreu a ddichon fod i attal rhwysg pechod, ac i wneuthur crefydd yn hyfryd i'r enaid. Efe a'n hannog i wrthwynebu cynnyrfiadau cyntaf pechod, neu ewyllysiau a chwantau a nghyfreithlon. Cariad at Dduw a'n cym hell fel y ffynnonell uchaf o ddyledswydd a hyfrydwch. Dengys yr holl bethau hyn an- feidrol biydferthwch cyfiawnder Duw. VI. Tystiolaeth arall o gyfiawnder Duw a ymddengys yn yr undeb anghyfnewidiol a sefydlodd efe rhwng ymddygiadau da, a hyf- rydwch, a gweitl re ìoedd drwg, a gofid, yn mhlith holl ddynolryw trwy y byd. Fel ag y dwg rhinwedd bob amser hyfrydwch gydag. ef; a bai a ddwg boen! Ac mae y Creawdwr wedi sefydlu y gosodiad rhyfeddol hwn o bethau, yn yr holl oesoedd a chenedlaethan hyd ddiwedd y byd.—Yma cofnodaf ddyw- ediad o eiddo difinydd duwiol, i'r dyben o wasgu y meddwl ar bob pechadur rhyfygus a ddichon ddarllen y llinellau hyn. " Rhin- wedd a hyfrydwch, drygioni a gofid a elynt bob amser gyda'u gilydd. Cyfiawnder Duw a sefydlodd yr undeb yma yn ddigyfnewid, ac ni phaid hyd ddiwedd byd, ac i bob tra- gywyddoldeb. Mor gadarn ydwyf o nerth anwrthwynebol y rheswm hwn, fel nad ofn- af feiddio holl gythreuliaid uffern, a'r holl ddynion drwg ar y ddaear, i brofi yn wahan- oll." Y meddw bob amser a deimla boen ar ol meddwdod; y Glwth a deimla ofid ar ol glythineb; y Putteiniwr ar ol gweithred butteingar; y dyn o dymmer wyllt bob tro a deimla ofid ar ol gweithred o ddigofaint; teimla y dyn dialgar bob amser boen ar ol gweithred o ddial; y gwr balch ar ol ym- ddygiad o falchder; y dyn hunanol heb eithriad a deimla ofid ar ol gweithred hun- anol; y pleidydd (bigot) anghariadus a deimla boen bob amser ar ol gweithred bleidgar ac angharuaidd; y Celwyddwr ar ol ei gelwydd a deimla ofid ac euogrwydd; y Rhagrithiwr byth nis gall deimlo boddlonrwydd ar ol gweithred o ragrith; ni chaiff y dyn diog byth lawenydd mewn diogi; teulu y Rhoi heibio a ddilynir a thrueni teulu yr ynfydion; gwrthryfel yn erbyn uwchafiaid cyfreithlawn a ddilynir bob amser ag euogrwydd cyd- wybod; a phawb personau twyllodrus yn eu cyfeillgarwch a gant fyw eu holl fywyd mewn amddifadrwydd o wir heddwch. Yn. olaf:—Mae Duw mewn geiriau a gweith- redoedd yn mhob oes, wedi amlygu ei gas- ineb eithafo bob anghyfiawnder raewn dyn-