Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

sr msM Rhif. VI.] MEHEFIN, 1831. fCvr. II. BYWYD A NODWEDDIAD PERSONAU CYHOEDDUS. IARLL GRET. M,ve tirocîd wedi hod yn perthyn i'rteulu ymn yn Northumherland er dyddiau Wü- lîam I. Ond yn ysbaid cymmaint o amser y mnentoanghenrheìdrwydd wedi cyfarfod à llawer o gyfnewidiadau ; weithiau yn lluosog mewn cynnrycliiolwyr o enwog- rwydd, brydiau ereill wedi eu darostwng yn agos i ddiddymdra mewn rhifedi ac awdurdod, er nad mewn cyfoeth. Yr henafìaid cyntaf i'r pendefig liwn o ddim hynodrwydd oedd Barwn Grey o Werke, yr hwn a dderchafwyd i'r argìwyddiaeth gan Iago II. Rhyngddo ef a gwrthddrych y sylwadau hyn, ymddangosodd llawer, y rhai a haeddent goffadwriaeth oblegyd eu doniau a'u gweithredoedd. Un o honynt Syr Henry Grey, a wasanaethodd swydd Uchel Sirydd dros Northumherland yn y fl wyddyn 1736-Ei fab hynaf a ochelodd bob cyhoeddusrwydd, ac anaml yr ymwelai â'r brifddinas; eto yr oedd yn hynod am ei haelioni, ac yn medi cyfoeth helaethach na y rhan fwyaf o gyffredinolion y wlad- Y mab nesaf ydoedd o dymher wahanol, yntarddu, mae'n debygol, oddiwrth fod ei amgylchiadau yn gyfyngach, yr hyn a'i gwnaeth yn anghenrheidiol iddo gael ei ddwyn i fynu i alwedigaeth fwy llafurus; a thrwy gynghor ei frawd efe a ddewisodd fywyd milwraidd. Y person hwn oedd y blaerior enwog, Syr Charles Grey, athad y presennol Iarll Grey. Efe a wasanaethodd ar y Cyfandir fel is-swyddog, pan yn 38. Yn 1801, efe a grewyd yn Farwn Grey de Howick, ac yn 1806, derchafwyd ef i radd Iarll. Bu farw yn mis Tachwedd yn y fl wyddyn ganlynol. Gwrthddrych y cofiant hwn yw mab hynaf a'r etifedd i gyfenwau a meddiannau y câdflaenor dewrwych. Yr oedd ei dad yn rhyfela brwydrau eì wlad yn anialwch America, yr India Orllewinol, ac yn Flanders, pan oeddef yn derbyn ei addysg yn ysgol Eton. Nid yw yn ymddangos, er hyny, fod Charles Grey yn esgeulus yn, absenoldeb ei dad. O Eton symndodd Mr. Grey i Gaergrawnt, lle yr ennillodd fwy o ddysg nag sydd yn gyffredin yn syrtfrio i 13 ran meibion henaf pendefigion cyfoethog. Ar ol gadaely brifysgol aeth drosodd i'r Cyfandir, ac ymwelodd a phrifddinas Ffrainc, Itali, a 'Spain. Vn fuan wedi ei ddychweliad o'r Cyf- andir, dygwyddodd iddogynnyg ei hun fel aelod i gynnrychioli ei swydd enedigol yn y Senedd. Dewiswyd ef heb ddim gwrth- wynebiad cyn iddo gyrhaedd ei ugeinfed flwyddyn. O an ghenrheidrwydd ni chym- merodd ei le yn y ty hyd oni ddaeth i oed : ond nid hir y bu cyn medru dangos ei aliu a'i fedrusrwydd i gymmeryd rhan yn eu dadleuon. Rhaid ei bod yn hyfrydwch nid bychan i'w ysbrydgwladgarawl i gael cyfle i dderchafu ei ymdrechiadau seneddol ar un o'r achlysuronmwyaf a gymmerasant le eriotd er helaethu llwyddiant y deyrnas— sef y cytundeb masnachawl â'r Cyfandir; yr hwn a ffurfiwyd dan olygiad Mr. Pitt, yn y flwyddyn 1787 Mae Uawer yn fyw ag ydynt yn cofio'n dda am y ddadl a ragflaen- odd y mesur hwn, y rhai a lafarant am ymdrechiadau Mr. Grey aryr achlysuryn y modd mwyaf parchus. Nid oedd efe bryd hyny ond ieuanc ; eto mewn gwybodaeth o'n hachosion masnachol tramor, a med- rusrwydd i'w gosod allan ac ymresymu oddiwrthynt; rhagorai ar yrhan fwyaf o'i frodyr mwy oedranus, hjd yn oedyn ol eu cyfaddefiadeu hunain Nid ydoedd yn anhawdd deall oddlwrth ei areithiau, at ba un o'r pleidiau uchel yn y llywodraeth y glynai Mr. Grey, ond pe gadawsai y rhain yr holiad yn dybus, fe symudid yr ammheuaeth yn ddioed trwy ei waith yn ymuno yn gyntaf â'r Chwigiaid, ac ynaâ chymdeithas wybyddus wrth ei henw mwy diystyrllyd, —' Cyfeillion y Bobl.' Ni welwyd ond ychydig o Senedd- wyr, ac yn enwedig Seneddwyr ieuainc, mor sefydlog yn erbyn mesurau rhyfelgar Mr. Pitt, ar doriad allan y Ghwyldroad yn Ffrainc. Dilynodd Grey yn bleidiol egniol i'r drefn wrthwynebol o heddycblondeb ae anmhleidgarw^ob a gyffesid gan Fox a'i gyfeillion. Efe a gariai ei wrthwyoeb-