Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 1.] EBRILL, 1884. [Cyf. I. YSTADEGAETH YR YSGOL SABBOTHOL. GAN Y PARCH. R. S. WILLIAMS, BETHESDA. Gan mai yr Annibynwyr ydyw yr Enwad crefyddol Huosocaf ei aelodau yn Nghymru, dylai deiliaid yr Ysgol Sabbothol yn nglyn ag ef fod yn amlach eu rhifedi nag ydynt mewn cysylltiad ag unrhyw enwad arall yn y Dywysogaeth, os nad ellir tybio fod yr Annibynwyr yn gosod llài o bwys nag enwadau eraill ar addysg Feiblaidd, neu ar yr Ysgol Sabbothol fel moddion cyfaddas i'w chyfranu. Ond nis gallwn, ac ni ddisgwylir i ni, yn ngoleuni egwyddorion gwahaniaethol yr enwad, ei hanes yn y goi*phenol, a'i barotoadau gyferbyn a'r dyfodol, ganiatau y naill na'r llall o'r tybiau an- ffafriol a grybwyllwyd. Eto pell' ydym o deimlo yn foddhaol ar sefyllfa bresenol yr Ysgol yn ein plith. Canfyddir weithiau wahaniaeth mawr rhwng credoau enwadau crefyddol, fel y corpholir hwy yn bynciau mewn cyffesiau, a'r parodrwydd i'w troi i'r ymarferol mewn gweithredoedd. ' Mae rhai yn well, eraill yn waeth, na'u credo. Yn gyffelyb, gallwn ninau fod yn fwy diffygiol yn ein sel a'n llafur o blaid yr ysgol, nag yn ein syniadau am yr agwedd ddylai fod arni. Mae y meddwl sydd yn cynyrchu gweithrediad yn cael ei esponio gan ei weithredoedd ei hun. Rhaid fod agwedd Ysgol Sabbothol mewn enwad yn fynegiad o syniad yr enwad am werth addysg grefyddol. Rhydd y daíien ganlynol olwg gynhyrfiol ar ei nodwedd yn ein plith. YSTADEGAETH Y PARCH. T. REES, D.D. Yn y Uyfr rhagorol a gyhoeddodd yn ddiweddar, ar " Hanes Ymneillduaeth yii Nghymru," cawn gan y Doctor parchedig y ffigyrau canlynol, a ddangos- ant rifedi cymarol deiliaid yr Ysgol Sabbothol yn mhlith gwahanol enwadau Ymneillduol ein gwlad, yn nghyda chynydd yr aelodau eglwysig mewn ysbaid ugain mlynedd o amser, o 1861 hyd 1881. Cynydd y boblogaeth yn Nghymru, 22'14 y cant. ,, Aelodau gyda'r Bedyddwyr, 48'21 y cant. ,, ,, gyda'r Methodistiaid, 31'75 y cant. ,, ,, gyda'r Wesleyaid, 31'77 y cant. ,, ,, gyda'r Annibynwyr, 23'55 y cant. Llefara y ffigyrau hyn drostynt eu hunain. Ac y mae yn sicr y teimlir hwy gan y rhai mwyat" ysbrydol yn gerydd llym ar ddifaterwch yr eglwysi. Os bydd eu darllen yn foddion i ddeffroi rhywrai, fel yr hyderwn y bydd, i fwy o ymroad crefyddol, cofier mai drwy ymdrechion egniol yn yr eglwys nnigol yr ydys yn aelodau o honi, y gellir cyflawni gwaith a sicrha lwyddiant cyffredinol. Gan mai nid ag aelodau eglwysig fel y cyfiyw y mae a fynom yn ein hysgrif bresenol, ni wnawn ragor na gofyn i bob aelod a ddarllena y fligyrau roddi iddynt yr ystyriaeth a deilyngant.