Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ggdttnfäity Sr §$aol gabbattfûL Rhif 15.] MEHEFIN, 1885. [Cyf. I. Y WYRTH YN GADARA. GAN Y PARCH. F. SAMUEL, ABERTAWE. Y mater y ceisir eglmhad arno yw, tybiwn, a oedd y Diafol wedi rneddianu y dyn hwn fel person, neu, a'i math o afiechyd oedd ar y dyn, a'r Gwaredwr mawr yn ei iachau o'i glefyd. Er mwyn egluro hyn, rhaid i ni ymofyn Yd gyntaf:—A oes y fath fod a Diafol i'w gael yn berson annibynol ar, ac ar wahan oddiwrth ddyn ? Yn ail:—A oedd y Diafol yn cymeryd meddiant o gyrph a chynheddfau dynion yn amser yr Arglwydd Iesu Grist 1 Rhaid i ni ganiatau un o ddau beth—(1) Y mae Diafolyn bod, ynberson deallgar, yn ysbryd diwg ar wahan oddiwrth ddyn : neu—(2) Nid oes y fath un, ac mai egwyddor ddrwg yn y dyn yn unig ydy w, i ddechreu gyda'r olaf, os nad oes Diafol i'w gael, yna y mae'n canlyn y tii pheth hyn:— I.—Mae hoü ddysgeidiaeth y Beibl ar y pen hwn yn myned a ni ar gyfeiliorn. II.—Mae dysgeidiaeth Crist a'r Apostoìion yn ein gadael yn y tywyllwch ar y pwnc, am na chywirasant syniaí yr Iudâewon am yr ysbryd drwg. III.—Ac y mae Cyfryngwriatth Crist yn cael ei ysgubo i ffwrdd am byth. Eithr, nid yw dysgeidiaeth y Beibl yn myned a ni ar gyfeiliorn. Dysgir ni ei fod yn berson, ysbryd, ar wahan oddi wrth ddyn, ac annibynol arno. Y mae yn fôd deallgar, dirnadaeth, barn, côf, ewyllys, a serch ganddo, a'i fod yn drylwyr ddrwg yn ei natur a'i weithrediadau. Mae'r gair Diafol neu Satan yn golygu fod un penaeth ar y cythreuliaid i gyd, a bod Uuaws mawr o angylion drwg is-raddol ganddo dan ei awdurdod. Mae'r geiriau " Diafol a'i angylion " yn profi hyn. Cyfarcha'r Arglwydd ef fel person—" O ba le y daethost ti ?" Mae ganddo all'u i ddeall ac amgyffred—"A ddeliaist ti ar fy ngwas Job f' Mae ei wybodaeth yn eang. Gwyddai pa le yr oedd Job yn byw, nid ydym ni'n sicr heddyw ; a'i fod yn ddyn da. Mae'n symud o le i le—"O ba le yr ydwyt ti yn dyfod 1" " O dramwy ar hyd y ddaear ac o ymrodio ynddi." Adwaenai yr Arglwydd Iesu—"Mi a'th adwaen pwy ydwyt Sanct Duw." Teimlai awdurdod Crist drosto—"A ddaethost ti yma i'n poeni." Teimlai ei gyfrif- oldeb, am fod " cyn yr amser " yn golygu dydd y farn olaf. Mae cais yr ysbrydion drwg at y Gwaredwr am ganiatau iddynt fyned i'r moch yn cynwys eu bod yn ddarostyngedig iddo, a bod ganddo hawl ac awdurdod arnynt. Os dadleuir mae'r dynion a ddywedasant—"A ddaethost ti i'n poeni ni," yr hyn sydd yn dra direswm am eu bod yn cael eu poeni ar y pryd ; sicr yw mai'r ysprydion drwg ddywedasant—" Os bwri ni allan caniata i ni fyned i'r moch." Sut y gallasai clefyd "adwaen" yr Iesu? Sut y gwyddai clefyd am ei awdurdod ? Sut y gallasai clefyd ofyn am ganiatad i fyned i'r moch ì