Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYDYMAITH YR YSGOL SABBOTHOL, Rhif.. 29.] AWST, 1886. [Cot. II. YR YSGOL SABBOTHOL A'I HAWLIATJ. ÖAN Y DIWEDDAE BARCH. W. AMBROSE. [Wrth edrych dros rai o ysgrif-lyfrau Mr. Ambrose, yn ddiweddar, daethum o hyd i bregeth a draddodwyd ganddo ar " Noson y Cyfarfod Ysgol," Gorph. 13eg, 1862. Credaf i'r sylwadau ymddangos mewn ffurf dipyn yn wahanol yn y Dysgedydd am 1863. Ni roddir yma ond y darn cyntaf o'r bregeth yn unig. Cynwysa y rhan arall gyfarwyddiadau ac anogaethau i ffyddlondeb—yr oll yn bwrpasol, eto yn nodedig o fyr. Diau y bydd y dernyn canlynol, er yn anorphenol, yn dra gwerth- fawr yn nghyfrif llawer o ddarllenwyr y Cydymaith.—L>. G-riffith, Dolgellau.] 2 Cor. v. 13.—" Canys pa un bynag ai anmhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym ; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym." R nad oedcl yr apostolion yn chwenych dyrchafu eu hunain mewn fíbrdd 0 hunan-ganmoliaeth, eto cynhyrfid hwy i gyf- eirio at eu Uafur weithiau, mewn ffordd o amddiffyniad, yn gymaint a bod y gwaradwyddiadau a deflid arnynt yn ddirmyg ar Dduw, ac yn dylanwadu yn ddrwg ar y rhai o'u hamgylch. Yr oedd gau-athrawon i'w cael, y rhai a garent eu gosod allan fel rhai yn colli arnynt eu hunain, " Bydded felly," fel pe dywedasai yr apostol, " os ydym yn anmhwyllo, i Dduw y mae felly—i ledaenu ei achos, a dwyn yn mlaen ei ogoniant; eithr os yn ein pwyll yr ydym, y mae hyny er budd i chwi, yn hytrach nag i ni ein hunain." Yn awr, er mwyn cadw at ysbryd y testun, y mater cyntaf i ddyfod dan sylw, ar yr achlysur hwn, yw, Amddiffyniad yr Ysgol Sabbothol. Y mae yr ymadrodd yn swnio yn chwithig, mi a wn,—fel amddiflyn yr haul i godi, y blodau i ymagor, &c Y mae addysgu plant mewn pethau crefyddol yn hen arferiad. Yr oedd y Cristionogion cyntefig yn ofalus am hyn; felly hefyd y catechuniens mewn oesau dilynol. Yr oedd y Puritan- iaid yn dra gofalus am y Sabboth, a chrefydd deuluol, ond nid ydym yn cael hanes am un sefydliad tebyg i'r Ysgol Sabbothol yn eu plith. Yn 1782 y dechreuwyd hi gan Raikes yn Gloucester, ac yn fuan wedi hyny gan Charles yn Nghymru; er fod eraill, yma a thraw, wedi bod yn amcanu at rywbeth tebyg yn flaenorol. Idea bwysig i'r byd moesol ydoedd hwn. Adeg bwysig oedd yr adeg y darganfyddwyd printio, y steam engine, y railway, yr electric telegraph, &c; ond nid mwy pwysig na'r drychfeddwl hwn i'r byd moesol. Efallai mai y llwybr rhwyddaf i'w hamdclifiÿn yw sylwi ar y gwrthddadleuon a ddygwyd yn ei herbyn. 1. Nid oes son am dani yn y Beibl. Gwir nad yw yr ymadrodd " Ysgol Sabbothol," yn y gair Dwyfol, ond y mae ynddo gyfarwyddiadau penagored i'w cymhwyso at lawer o bethau, megys " Gwnewch dda i bawb>" " cynnal