Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CiììJgmaií^ gr ffspl £ẃhafyal. Bhif 35.] IONAWE, 1887. [Oyf. III. gikîtiuxm: S^ífogìŵmiws. GAN Y PABCH. L. JONES, TY'NYCOED. "A hwy 6,'i cymmerasant ef attynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylaoh."— Act. xviii. 26. 1 ffordd Duw yn fanylach" ydyw prif amcan yr Ysgol Sabbothol, ac os na chyrhaeddir yr amcan yma yn y dosbarth, nis gellir dyweyd ei fod yn llwyddiant. Mae yn y testyn enghraifft nodedig o'r hyn sydd yn ofynol mewn athrawon a disgyblion er gwneyd y dosbarth yn llwyddianus. Yn Acwila a Phriscila, gwelir nodweddion arbenig athrawon defnyddiol, ac yn Apolos, yr hwn a hyfîbrddid ganddynt, ceir darlun o'r disgybl neu y dosbarth ag y mae gwir Iwyddiant yn eu haros. Pan edrychom ar Acwila a Phriscila fel athrawon, gwelir fod eu calon yn y giuaith. Dyn dieithr iddynt oedd Apolos. Yr oedd ef wedi oi fagu yn Alexandria yn yr Aipbt, a hwythau yn Pontus yn Asia. Nid oes hanes am neb yn eu rhoddi ar waith i'w hyfforddi ar ol iddo gyr- haedd i Ephesus. Yr oedd cariad Crist yn eu cymhell i'w helpu hyd y gallent i ddyfod i lawn wybodaeth o'r gwirionedd. Gofidus yw meddwl yr holl waith cymhell sydd ar ddynion i ymgymeryd â gofal dosbarth yn yr Ysgol pan elwir am eu gwasanaeth. Dylai pob Cristion fod â'i galon yn llosgi gan awydd i roddi pob help a allo i agoryd ffordd Duw yn fanylach yn yr Ysgol, a phrin y credwn y gellir disgwyl i'r rhai a haner orfodir i gymeryd gofal dosbarth, i wneyd llawer o lês ynddo. Gwelir yma eto fod Acwila a'i wraig yn cadw y prif amcan mewn golwg yn y dosbarth, sef " agor ffordd Duw." Perthynai i Apolos lawer iawn o ragoriaethau cyn hyn. Gan ei fod wedi ei fagu yn Alex- andria y mae yn bur debyg ei fod wedi hod yn y Brif-ysgol yno, ac os felly, yr oedd yn gyfarwydd âg athroniaeth y paganiaid. Beth bynag, yr òedd yn " gadarn yn yr Ysgrythyrau," ac felly yn gyfarwydd yn y aeddfau moesol a seremon'iol, ac yn yr holl hanes am ymwneyd Duw â dynion o dan yr Hen Oruchwyliaeth. Yr oedd hefyd wedi dechreu dysgu iddo " ffordd yr Arglwydd "—gwyddai gryn lawer am Ioan Fed- yddiwr, ei fedydd a'i bregethu, a rhyw gymaint o wybodaeth hauesyddol am Grist, ond yr oedd llawer iawn o " fanylion" pellach yn ofynol arno. Yr oedd yn " wresog " ryfeddol yn yr ysbryd hefyd, ac yn " ŵr ymadroddus," ac yn " hyf" a diwyd yn y pethau a berthynent i'r Arglwydd, a buasai Uawer yn gadael llonydd iddo ar hyny, ond gwelodd Acwila a'i wraig trwyddo, a deallasant ei berygl, oni ellid agor fîordd