Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cgtrnmaiíjí gr ffsgol S A0ÍJJ0L Ehif 36.13S CHWEFROE, 1887. [Cyf. III. GAN Y PAECH. W. JAMES, EBENBZEB, ABEETAWE. j||||YHUDDIB ein hoes, o fod yn oes ddieithr iawn i Air Duw. Nid jpj|| ydym yn gwybod faint o wirionedd all fod yn y fath gyhuddiad ; ■^' ond gwyddom ei bod yn oes gefnogol i bechod, i'r graddau y niae bod yn ddieithr i Gyfraith Duw yn wirionedd am dani; canys " Y rhai a ymadawant â'r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol." " Fy mab," meddai y Gŵr Doeth, " gwrando addysg dy dad, ac nac ymadaw â chyfraith dy fam." Diystyrwch ar addysg a chyfraith yr aelwyd yw ffynonell llawer o'r drygau a'r trueni sydd yn ein byd,—y mae llawer bachgen afradlon, a llawer merch anystyriol, yn treulio eu hoes i fedi gofidiau rhwng adfeilion cyfraith doredig yr aelwyd y magwyd hwynt arni. Eto, gall addysg ambell dad fod mor gam-gyfeiriol, 'a, chyfraith ambell fam fod mor anghyfreithlon, fel mai bendith yw ymadael â hi. Ond am gyfraith Duw, cynwysa addysg sydd yn cael ei hestyn i ni gan ddoethineb anfeidrol, a chan ewyllys sydd yn amcanu at ein tragy- wyddol ies, fel na fedr neb ymadael â hi, heb ymadael â'i les ei hun wrth wneyd hyny. Un o amcanion y gyfraith yw cyfarwyddo dynion i wneuthur daioni; ac y mae pawb sydd am wneuthur daioni yn ei hanwylo, ac yn glynu wrthi; a phawb sydd am wneuthur drwg yn ei hanmharchu, ac yn ymadael â hi. Y mae " ymaäael â'r gyfraith " yn golygu myned yn mhellach oddi- wrthi o ran meddwl, myfyrdod, a theimlad—cefnu arni fel moddion cyfarwyddyd bywyd, a chefnu ar y llwybrau ag y mae ufudd-dod iddi yn tywys bywyd ar hyd iddynt. Ac arwydd sicr o ddyn yn cyfiymu ar y goriwaered yw, ei weled yn gwrthod y llusern a'r llewyrch ag sydd yn dangos ansawdd a chyfeiriad y ffordd, ac yn ymadael â phob peth a fyddo yn tueddu i roddi atalfa arno. Hawdd deall oddiwrth y fath gyfeiriad fod y gyfraith wedi ei gadael fel moddion cyfarwyddyd. Gall y Beibl fod yn cael ei gadw dan yr un gronglwyd a theulu a fyddo yn byw mewn cryn bellder oddiwrth y gyfraith sydd ynddo, a hyny am eu bod wedi rhoddi heibio ei ddarllen, ei fyfyrio, a'i fyw. Y mae llaWer hen Feibl teuluaidd yn cael treulio oes sydd yn rhwym o fod yn boenus iawn iddo, oherwydd gorfodir ef i dreulio y rhan fwyaf o'i oes yn ei blyg, heb fod neb yn ei gynorthwyo i ymuniawni er mwyn edrych yn ei wyneb, o'r naill wythnos i'r llall. Ond y mae teulu fedr ymddwyn felly tuag at y Beibl yn rhwym o fod wedi ymadael â'r gyf-