Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cgtrgmaiílj gr §S0ûí Saírkr%rL Ehif 37.| 7. , MAWETH, 1887. |ẅf. HI. garíím g jgwJbl GAN MBS. PETEB, TOWYN. IpN o arwyddion mwyaf bygyíhiol yr oes ydyw dieithrwch dirfawr ieu- ife enctyd crefyddol ein gwlad i gynwys y Beibl. Ofnwyf fod yn ein -è&r Hysgolion Sabbothol lu o aeíodau nad ydynt yn arfer agor y Llyfr Sanctaidd o'r naiìl Sabboth i'r lla.ll. Llawer gwaith y clywir geiriau cyffelyb i hyn yn cael eu sisial yn y dosbarth—" Lle yr yd'ani yn darllen heddyw!" 0! fel y naae geiriau felly yn digaloni yr athraw brwdfrydig, fydd wedi bod drwy yr wythnos yn mynych fyfyrio uwch ben yr adran benodedig, ac yn gweddio am oleuni yr Ysbryd Glân ar ei waith. Diau y cyfyd y difaterwch hwn yn nghylch darllen y Beibl o anwybodaeth o gynwys y Beibl—o'i hanesion dyddorol, ei fywgramadau addysgiadol, ei ganiadau melusber—heb son am y dadguddiadau gogoneddus a gynwysa o " ffordd," ac unig " ffordd iachawdwriaeth." Nid yw mwyafrif ein haelodau eglwysig wedi darllen y Beibl yn rheolaidd o'i ddechreu i'w ddiwedd' erioed; ac ni wyddant nemawr ddim am neillduolion y gwahanol lyfrau a'u cyfan- soddant, hanes awdwyr y gwahanol lyfrau, yr oes a'r amgylchiadau yr oedd- ynt yn byw ynddynt; safleoedd daearyddol y manau a grybwyllir ganddynt; y materion arbenig yr ymdrinant â hwynt; na pherthynas y gwahanol ad- rauau hyn o'r Beibl â'r oll o hono. Nid yw eu cywreinrwydd ar y pynciau hyn erioed wedi ei ddeffro, ac oherwydd byny y maent yn gwbl ddieithr i ddirgelwch dyddordeb y Llyfr. Nid fel yna yr ymddygir at lyfrau eraill. Ymofynir i hanes eu hawduron hwy, a darllenir y rbagdraeth er gwybod pa amcan sydd iddynt. Yna dechreuir ar y llyfr ei hun, gan ei ddarllen o'i gwr o bennod i bennod, o ddalen i ddalen, nes gorphen y ddalen olaf. Paham yr ymddygir yn wahanol tuag at Lyfr Duw, gan foddloni ar ddarllen dim ond darnau byrion a gwasgaredig o hono, heb dalu un sylw i'w hamgylchoedd a'u cysylltiadau ? Gyda dim ond ymdriniaeth ddireol felly â'r Beibl, nis gellir caeì y wybodaeth hono o'i gynwys a'i gwna yn llyfr gwir ddyddorol ac adeil- adol i ni. Gyda golwg ar y cynllun goreu i ddarllen yr holl Feibl yn ddeallus a rheolaidd, y mae yn anhawdd penderfynu. Amrywia pobl dda yn hyn, fel yn mhobpeth aralì. Boddlonaf ar enwi dim ond dau gynllan a ddeínyddtf. Yn gyntaf: "Cymeryd un o lyfrau y Beibl, a'i ddarllen drwodd yn ofalus, gan gcisio gwybod pob peth posibl yn ei gylch. Er engraifft, cymerer Llyfr Esaiab—Pwy ydoedd Esaiah ? Pa bryd yr oedd efe yn byw ? A pha fren- binoedd y cydoesai ? Pa rai ydynt brif faterion ei brophwydoliaethaa ?