Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(%frîîmaifjj gr ffsgûl SLiẁthafyàl. Ehif42.|, AWST, 1887. [Cyf. III. GAN Y PARCH. B. DAVIES, TEELECH. |N nghanol y cyffroâd dwfn a chyffredinol presenol a deimlir yn mhob enwad yn Nghymru, yn mherthynas a'r Ysgol Sabbothol, ysgrifenir ^5^ llawer ar gymhwysderau a dyledswTyddau athrawon yr Ysgol; a diameu fod y difaterwch a fu yn mhenodiad llawer o'r cyfryw i'w swydd, yn y blyn- yddoedd a aethant heibio, yn cyfrif i raddau helaeth am sefyllfa aneffeithiol yr Ysgol mewn llawer ardal. Eto pan gofiom fod y llafur a gymerwyd gan yr athrawon, yn llafur rhad, oddiar gariad at Grist, nis gallwn lai na theimlo gormod o barch iddynt i j'sgrifenu na dweyd gair anmharchus am danynt, Na, gwnaethant iddynt eu hunain le yn nghalon ein cenedl, yn nghymeriad ein pobl ieuainc a í'u o dan eu gofal, yn lledaeniad gwybodaeth Ysgrythyrol, ac yn nygiad aml i un i adnabyddiaeth o'r " gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. " Tra yn dal o fiaen yr athrawon y pwysigrwydd iddynt i feddu cydymdeimlad llwyr â holl ddyledswyddau eu swydd, a'i ni fyddai yn burion i adgofio pob disgybl y disgwyiir rhy wbeth oddiwrtho yntau, ac na fedr athraw, gan nad beth a fydd ei ragoriaethau, fagu dosbarth da byth, yn annibynol ar gydweithrediad y dosbarth ei hun. Goddefer felly, ychydig eiriau ar y penawd uchod—Beth a feddylir wrth y disgybl parod ? 1. Yr hwn a fydd wedi gwneyd gwers y Sabbath yn faes llafur yr roythnos.—Y mae dosbarth dilafur yn tori calon yr athraw pryderus. Pa fwyaf llwyr y byddo cydymdeimlad dyn â'i waith, dyfnaf oll y teimla oddi- wrth arwyddion o ddifaterwch eraill am dano. Y mae yr athraw na ofidio am segurdod ei ddosbarth yn sicr o fod yn segur ei hun, ac felly yn ddibryder am gynydd y rhai fyddo dan ei ofal. Ond y mae dosbarth diog yn tueddu i ddigaloni yr athraw llafurus. Nid yw y garddwr yn tafiu hadau ar wyneb daear ddidriniaeth a diachles, yn nghanol llysiau amrywiol a diwerth ; daear wedi ei chymhwyso drwy driniaeth fiaenorol sydd yn ad-dalu am y draul a'r drafferth i'r amaethwr. Cyfrenir addysg yn yr Ysgolion dyddiol am nifer penodol o oriau, ond nid yw yr ysgolfeistr yn tybied y dylai adael y plentyn i anghofio yr Ysgol am yr holl oriau eraill, a dichon fod yr Home Lesson a roddir yn cael ei roddi er mwyn cadw y plentyn mewn cydymdeimlad â'r Ysgol, a'i waith ynddi; ac y mae 'r meddwl ienanc yn llawer parotach i'w waith dranoeth wedi gwers y nos flaenorol, na phe buasai hebddi. Onid pa leiaf y gwaith, mwyaf y baich i'w gyflawni ? Y mae disgybl esgeulus ei lafur ar hyd yr wyth- nos, yn hollol annghymwys i waith y dosbarth ar y Sabbath. Ehaid i'r athraw