Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cgtrimtaitlj gr gsgol Sèẃhafyal, Ehif 46.j t. í BHAGFYE, 1887._____________[Ctf. III. (Bútmio't §áírí. GAN Y PAECH. T. DENNIS JONES, PLASMABL. BBIBL fel llyfr sydd wedi rhoddi bodolaeth i'r Ysgol Sabbothol. Amcan arbenig yr Ysgol yw dysga darllen a deall y Beibl. Barnwn, gan hyny, inai testyn priodol a buddiol i ysgrifenu arno i dudalenau Cydymaithyr Ysgol Sabbothol yw "Esbonio'bBeibl." Mater o lawenydd cyffredinol i holl wir bleidwyr yr Ysgol Sabbothol, yw y sylw mawr ga esbonio'r Beibl yn y dyddiau hyo. Y mae amledd llyfrau da, a llu o esboniadau sydd a'u hamcan yn uniongyrchol i egluro Gair Duw, yn llenwi ein calon â mwynhad annesgrifiadwy; ac y mae fod llenyddiaeth Gymreig hefyd yn cael ei chyfoethogi o flwyddyn i flwyddyn â'r cynorthwyon gwerthfawr hyn i ddeall y Beibl, yn rhoddi testyn diolchgarwch i Dduw, i bawb y mae dyfodol Cymru yn foesol ac yn ysbrydol yn agos at eu meddwl. Credwn mewn dwyn tystiolaeth gymeradwyol, uchel, a phendant, i werthfawredd esboniadau fel cynorthwyon i ddeall y Beibl; eto, teimlwn fod perygl i rai feddwl wrth hyn mai ofer fydd ceisio deall dim ar Air Duw heb yr esboniadau yma. Cyfarfyddwn yn achlysurol â phersonau roddant eu hamddifadrwydd o esbouiadau fel yrnddiheurad digonol a boddhaol dros eu hanwybodaeth o bethau symlaf a mwyaf eglur y gyfrol Ddwyfol. I gyfarfod â'r cyfryw, dywedwn nad oes raid wrth esboniadau er meddu gwybodaeth fuddiol o gynwys Gair y bywyd. Y mater geisiwn ymdrin âg ef yn hyn o ysgrif yw:—Mai yr esbon- iad goreu, pwysicaf, a mwyaf hanfodol ar y Beibl, yw y Beibl ei hun. Esboniad Ysgrythyrol yw yr unig wir esboniad o'r Ysgrythyr. Ond pa beth olygir wrth esboniad Ysgrythyrol? Atebwn yn nacaol, mai nid esboniad yn cael ei wneyd i fyny o ymadroddion Beiblaidd a olygwn. Clywir yn aml am esboniwr neu bregethwr fyddo'n fedrus i dryfritho ei sylwadau âg adnodau ac ymadroddion Beiblaidd, ei fod yn Ysgrythyrol iawn; tra y mae yn bosibl mai a»-Ysgrythyrol iawn ydyw. Nid ydym yn dyweyd na ddylid byth ddefnyddio ymadrodd Beiblaidd ond i'r amcan penodol yr ysgrifenwyd ef, ond dywedwn y dylai y defnyddiad fod yn gyson âg amcan ei ysgrifeniad, cyn y byddo y cyfryw ddefnyddiad yn Ysgrythyrol. Defnyddiodd y diafol ymadrodd Ysgrythyrol pan yn temtio y Gwaredwr, ond yr oedd y defnyddiad yn an-Ysgrythyrol iawn; ac y mae pob un a ddefnyddia ymadroddion Beiblaidd i roddi min ar ei sylwadau twyllodrus ac anghywir, mor an-