Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cgtrgmait^ jrr Jf&gol Safcijwl. Bhif 47.] t^_______________IONAWB, 1888._______________[üyf. IV. §£tjr gto gtoir s^fgíífa zm ÿppíiflit ŵMrrrtjroí? GAN O. JONES, PWLLHELI. UE yn adeg i edrych yn graffach a llwyrach nag erioed i'r gôfyniad uchod. Mae genym yn awr ddwy wedd ar ein Hysgolion Sabbothol i'w gwylio—eu diffygion, a dylanwad mesurau diwygiadol arnynt. Mae y llinellau hyn yn mesur ac yn esbonio y naill y llall pan ddygir hwy i gyffyrddiad â'u gilydd. Os na welir y drwg yn cilio o flaen y feddyginiaeth ar ol prawf rhesymol, dengys hyny ei bod yn anghyfaddas neu yn anghy- mesur, neu ynte fod y drwg yn eangach a chadarnach nag y tybiwyd. Dau allu yn mesur eu nerth o flaen yr edrychwyr ydyw y drwg a'r feddygiaiaeth.; rhaid meddu gwybodaeth gywir a chyffredinol o'u gwir sefyllfa cyn y gellir eu gosod yn fanteisiol gyferbyn â'u gilydd. Er fod mesur ílawer helaethach o sylw ac o ysgrifenu ar yr Ysgol Sabbothol nag a fu, tybiwn y teimlir eto nad yw y maes yn ddigon goleu o'n blaen i'w lafurio yn effeithiol. Mae methiant amryw gynygion a wnaed a,t ddiwygiad yn awgrymu hyn. Iyhiwn ein bod yn bresenol yn mabwysiadu diwygiadau rhanol, ond yn gadael diffyg- ion pwysig heb eu cyfl'wrdd. Mae llawer am adael pethau fel yr oeddynt, ac ataliant y cerbyd i symud. Ond rhaid myned yn mlaen, neu fyned oddiar y ffordd. Mae pob peth o'n cwinpas yn symud. Carem weled goleuni mor gryf yn llewyrchu ar y diffygion sydd yn ei nychu, ac ar y diwygiadau a'i dyrchafant, nes ilwyr ddeôroi y müoedd sydd eto yn ein plith yn ddifater yn nghylch y naill a'r Hall. Daw yr Ysgol Sabbothol ger ein bron mewn am- rywiol agweddau pwysig arni, ac y mae pob un o honynt yn galw am sylw neillduol y dyddiau hyn. Ni wnawn yma ond yn brin eu crybwyll. Ond yr ydym wedi trefnu i ohebwyr galluog eu cymeryd i fyny o fis i fis o fewn y flwyddyn ar ddalenau y Cydymaith. 1. Sutysaifyn ngwyneb cynydd yr oes, ac yn ngoleuni ei hanes ei hunan ? Fel cyfundrefn addysgol ei hunan, dyìai godi ei safon—dylai sefyll ar y blaen. Achwynir ei bod yn ddiffygiol yn hyn. Miliwn a thri chwarter o blant y deyrnas oedd mewn ysgolion dyddiol ugain mlynedd yn ol: mae yn mhell dros bum' miliwn erbyn heddyw. Nis gall hyn beidio dwyn gwaith cychwynol yr Ysgol Sul o'i dwylaw i fesur ; a rhaid y bydd iddo rwyddhau ei gwaith yn mhob ffordd gyda'r dosbarth ieuainc wrth eu gwneyd yn ddis- gyblion cyfarwydd â derbyn addysg. 2. Sut y saif o ran rhifedi cydmarol ei deiliaid ? Mae yn ofidus nad oes genym fel enwad gyfleusdra i edrych i mewn i hyn yn flynyddol yn ngoleuni ystadegaeth ofalns, megis y mae gan enw^dau eraill. Nid yw fod ystadegaft yn cael ea camddefnyddio ond yr hyn y mae pob peth da yn agored iddo.