Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 48.J m1 CHWEFROR, 1888. [Cyf. IV. gortor giforü M éshomám, GAN Y PAECH. T. DAYIES, LLANELLI. |^ANWYD Henry Alfoed, D.D., yn Llundain, yn 1810. Cafodd addysg nj||g dda yn blentyn, ac enillodd ei B.A. a'i M.A. tra nad ydoedd eto ond '«»*■ ieuanc. Dygwyd ef i fyny yn awyrgylch yr Eglwys Sefydledig, ac felly Eglwyswr oedd yntau. Ond nid oedd yn benboethyn, fel y mwyafrif mawr a berthynant i'r Sefydliad gwladol, a gwnaeth lawer i ostwng " canolfur y gwahaniaeth " rhwng Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr. Yr oedd yn ysgolor o radd uchel, a bu am flynyddau yn Arholwr yn Mhrifysgol Llundaiu mewn Rhesymeg ac Athroniaeth Foesol; ac yr oedd yn Ddeon Caergaint pan fu farw, yn 1871, yn 60 mlwydd oed. Gellir dyweyd i Dr. Alford gysegru ei alluoedd meddyliol ysblenydd, a'i ysgoleigdod addfed, i egluro Gair Duw. Caniataed y darllenydd i mi ddyweyd fy mod yn gyfarwydd, i fesur bychan, âg amryw esboniadau, ac nad wyf yn gwybod am un esboniwr wedi mabwys- iadu dull rhagorach, nac un esboniwr yn rhyddacb oddiwrth ddylanwad credoau culion a rhagdremiadau gwylltion, na Dr. Alford. Ei ymchwiliad penaf a pharhaus ef oedd, Pa beth yw " yr hyn a ysgrifenwyd yn Ysgrythyr y gwir- ionedd ?" Defnyddiai bob cyfrwng yn ei allu i gael allan gyflawn ystyr pob gair, ac ystyriai yn ofalus gystrawiaeth pob brawddeg, er dyfod o hyd i'r gwirionedd, ac yna derbyniai ef heb ofni dim am y canlyniadau. Ac onid yw hyn yn gynllun diogel i holl ddarllanwyr y Beibl i'w ddilyn ? Ao er egluro dull Dr. Alford o esbonio, mi a roddaf engraifft o'i eiddo yn trin pwnc ag y mae llawer o groes-ddadleu arno, sef y meddiant cythreulig. Dywed, wrth esbonio Matt. viii, 32 :—(1) Mae yr hanes Efengylaidd yn dysgu y meddiant cythreulig yn eglur fel ffaith hanesyddol. Felly, y mae yn rhaid i ni, naill ai credu y ffaith neu wadu yr hanes. Credai ef yr hanes. A diau nad ydyw darllenwyr y Oydymaith yn petruso pa un i'w wneyd. (2) Ac nis gellir dyweyd rnai tybiaeth ddisail yr oes hono oedd y meddiant cythreulig, ac na wnaeth y Dysgawdwr mawr ond defnyddio geiriau cyson â'r dyb hono ; canys y mae yr Haneswyr ysbrydoledig yn adrodd geiriau a lefarwyd gan yr Arglwydd Iesu yn y rhai y mae personoliaeth a phresenol- deb cythreuliaid yn cael ei ragdybio. [Gwel Lue xi. 17-26.] Felly, y gofyniad yw, A ddefnyddiodd ein Harglwydd y geiriau hyn ai naddo ? Os atebir naddo, yr ydys ar unwaith yn sefydlu egwyddor sydd yn dymchwelyd pob ffaith sydd wedi ei chofnodi yn vr Éfengylau. O'r tu arall, os Uefarodd