Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ehif50.|^ EBEILL, 1888. [Cyf. IV. Cri Cjjan' IfHtogbfttofr g grifrí Cgmr%. GAN Y PABCH. L. JONES, TY'nYCOED. JLWYDDYN hynod ydyw 1888. Ni bu blwyddyn a thri ffigwr wyth ynddi o'r blaen er's mil o flynyddoedd, ac ni bydd am filo flynyddoedd eto. Mae gan bob rhan o Brydain ei hamgylch- iadau neu ei digwyddiadau neillduol i'w dwyn argof yn ystod y flwyddyn hon. Yn Ysgotland, hynodir y flwyddyn hon fel pen dau can' mlwydd- iaeth merthyrdod James Eenwick, yr olaf o'r " Covenanters " a seliodd ei dystiolaeth â'i waed. Trwy Brydain yn gyffredinol, edrychir yn ol eleni ar 1688, pan ddymchwelwyd James II., ac y sefydlwyd Protest- aniaeth yn derfynol yn y deyrnas yma fel crefydd y wlad. Yn Lloegr, edrychir yn arbenig eleni ar 1588, pan orchfygwyd y Spanish Armada, yr hon oedd wedi dyfod drosodd i ddarostwng Lloegr i'r Babaeth. Yr oedd y Pab wedi esgymuno y frenhines Elizabeth ar ol iddi ogwyddo gyda'r Protestaniaid, ac wedi cyhoeddi nad oedd rwymau mwyach ar ei deiliaid i ufuddhau iddi; ac yr oedd wedi cy- hoeddi rhyddid i unrhyw un a ddewisai ddyfod drosodd i gymeryd ei choron a'i gorsedd oddiarni. Ond yn anffodus nis gallai ei rhoddi yn weithredol i neb heb i hwnw ymladd am dani, a gorchfygu y Saeson a'r Cymry. Mentrodd Philip o Ysbaen i ymgymeryd â'r anturiaeth, dan fendith y Pab, ac anfonodd agos i lôO o longau rhyfel drosodd i gymeryd meddiant o Loegr, gyda thyrfa fawr o wŷr arfog. Ond galwyd milwyr a Llynges Lloegr i fyned i'w herbyn, a rhwng dewrder ein milwyr a chyfryngiad Ehagluniaeth trwy wyntoedd croesion, gwnaethpwyd byr waith ar yr Ysbaeniaid a'u llongau, fel mai ychydig mewn cymhariaeth a ddychwelodd byth i Ysbaen. Hawlia Cymru ran arbenig o'r clod am y fuddugoliaeth yma, oblegid anfonodd hi 45,000 o filwyr i'r frwydr hono, tra na chafwyd ond 87,000 o holl Loegr. Ond yr hyn sydd yn gwneyd y flwyddyn hon yn hynod iawn i bob Cymro ydyw ei bod yn ben tri chan' mlynedd dygiad allan y Beibl yn Gymraeg gan Dr. William Morgan. Ganwyd y gwr enwog yma mewn lle o'r enw Gwibernant, yn mhlwyf Penmachno, sir Gaernarfon. Bu yn beriglor Trallwm, sir Drefaldwyn, i ddechreu, a Llanrhaiadr Mochnant, sir Ddinbych, ar òl hyny, lle y dechreuodd gyfieithu y Beibl