Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDDION DA. Rhif. i.] IONAWR, 1892. [Ail Gyfres. Y DIWEDDAR BARCHEDIG WILLIAM LEWIS. Ganwyd Gorphenaf ^ydd, 1814; bu farw Mai 6ed, 1891. HERWYDD llesgedd ni allodd Mr. Lewis fyned nemawr oddi ' cartref er's llawer o flynyddoedd; ac yr oedd felly o angen- rheidrwydd yn ddyeithr i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr Newyddîon Da. Da genym, gan hyny, gyflwyno y darlun uchod, i roddi iddynt ryw syniad am ei ymddangosiad. Cychwynodd ef a Mrs. Lewis, yr hon sydd yn awr yn weddw unig yn Ngwrecsam, a chyda hwynt y diweddar Dr. Richards a'i fab, Owen Charles, o Liverpool i'r India, Gorphenaf iôeg, 1842, yn y llong Malabar (yn yr hon yr aethai y Parch-