Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDDION DA. Rhif. 9.] MEDI, 1892. [Ail Gyfres. NODYN O'R AMERICA. Denver, Colorado, Gorph. 22ain, 1892. At y Parch. Owen J. Owen, M.A. NWYL GYFAILL,—Yr wyf erbyn hyn wedi croesi y cyfandir o'r Atlantic i'r Pacific, a chyraedd cyn belled a hyn ar fy nhaith yn ol. Ymwelais â naw o Dalaethau, sef New York, Pennsylvania, Vermont, Ohio, Illinois, Wisconsin, Minnesota, Dakota ddeheuol, a California; a chefais ynddynt oll arwyddion amlwg o ddyddordeb byw iawn yn ein Cenadaeth Dramor. Bu'm mewn pedair o Gymanfaoedd, sef Cymanfa Pennsylvania, yn Olyphant; Cymanfa New York, yn Poult- ney, Vermont ; Cymanfa Óhio, yn Oakhill; a Chymanfa Wisconsin, yn Oshkosh ; ac mewn tri chyfarfod Dosbarth—yn West Pawlet, Vermont ; yn Jerusalem, Blue Earth Co., Minnesota; ac yn Spain, Dakota dde- heuol. Yn yr oll o'r bron rhoddwyd sylw arbenig i'n Cenadaeth. Yn Oshkosh yr oeddid wedi trefhu i Dr. Pugh bregethu ar ddirwest y noson o flaen y "diwrnod pregethu;" a threfnwyd i gael yn yr un cyfarfod anerchiad ar y Genadaeth. Cynaliwyd cyfarfod Cenadol yn New York, West Bangor, Utica, Chicago, a San Francisco. Yn Oakland, ger San Francisco, gofynwyd i mi roddi anerchiad Cenadol yn lle pregethu y nos Sabboth yr oeddwn yno. Y mae hanes ein Cenadaeth am yr haner can' mlynedd diweddaf, a hanes symudiad ei Jiwbili yn Nghymru, yn faterion 0 ddyddordeb gwirioneddol i holl Fethodistiaid—yn wir, i holl Gymry yr America. Wrth gwrs, ni ofynais i neb am ddim at y Jiwbili, ond nid oedd ysbryd ynof i wrthod y rhoddion a gynygid i mi mewn modd mor garedig. Nid casglu oedd fy neges, ond yn hytrach dyfnhau dyddordeb y cynulleidfaoedd yn y Genadaeth. Derbyniais y symiau canlynol yn y drefn y dodir hwy i lawr yma:— Doler. Mr. John Humphreys, West Bangor ............ 5 Mrs. Hughes, New York ................. 5 Mr. a Mrs. J. C. Jones, a Miss Edwards, Oak Hill ... 50 Parch. Trogwy Evans, Chicago ............... 1 Mr. W. D. Davies, Hyde Park ............... 5 Parch. H. M. Pugh, D.D., Bangor, Wis.......... 5 „ John W. Roberts, Blue Earth Co., Minn....... 5 „ Thomas E. Hughes, do...........5 Casgliad yn San Francisco ... ............ .. 10 Cyfanswm ... 91 Yr oedd amryw gyfeillion wedi cyfranu yn haelionus er's llawer o amser, a'u cyfraniadau wedi dyfod i law y Trysorydd Cyffredinol. Os wyf yn