Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDDION DA. Cyf. II. Rhif. 14] CHWEFROR, 1893. [Ail Gyfres. AMDDIFAID YN SYLHET. EGLURO y darlun isod nis gallwn wneud dim yn well na dodi i mewn y llythyr canlynol oddiwrth Miss Williams, y Genades yn Sylhet, at dair geneth ieuanc :— Sylhet, India, Tachwedd \ydd, I892. Fy Anwyl Gyfeillion Ieuainc,—Y mae bellach amser maith er pan pwsoch ddim am Sylhet. Heddyw, mi ddywedaf wrthych am y plant bach amddifaid sydd genym yn y Tŷ Cenadol, y rhai yr anfonais eu dar- lun i chwi yr wythnos ddiweddaf. Cyn hir wedi i mi ddyfod yma yr 0eddym yn gorfod anfon i Calcutta am athrawesau i'r ysgol, am nas jftllem gael ond athrawesau Hindwaidd yn Sylhet. Wrth gwrs, nid °echan oedd y draul i'w cyrchu o bellder mor fawr; a dechreuais feddwl pe tarawem ar blant amddifaid, a phe magem ac yr addysgem hwy, y deuai y rhai hyn mewn amser i fod yn athrawesau, ac yr arbedem felly ryw Symaint o arian i'r Genadaeth. Dechreuais gyda ^eneth chwe' mlwydd 0eQ» yr hon a gynygiwyd i mi gan ei rhieni, y rhai oeddynt anarferol o