Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDDION DA Cyf. II. Rhif. 17] MAI, 1893. [Ail Gyfres. Y PAR«H. JOHN WILLIAMS, MERTHYR ERROMAWGA. CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN. GAN Y PARGH. W. S. JONES, M.A. III.—CYMYLAU A HEULWEN. NGENRHAID yw dyfod rhwystrau." A dyfod a wnaethant yn lluosog a mawrion i ran Cenadaeth Môr y Dê. Nid cynt yr oedd ei haul wedi codi gyda dysgleirdeb ac yn dechreu rhedeg ei yrfa mewn fifurfafen glir, nag y cerddodd y cymylau duon i tyny, ac y tywyllodd yr heulwen. Yn mis Rhagfyr, 1798, gadawodd y Duff y wlad hon ar ei hail daith genadol. Ar ei bwrdd yr oedd 29 o Genadon. Wedi morio am ddeufis, aphan weithian yr oedd yn dynesu at Rio Janeiro (Deheubarth America), ymosodwyd arni tua 10 o'r gloch y nos gan y Bonaparte, llong Ffrengig, a chymerwyd y Cenadon oll, oddigerth un o'r meddygon a'u gwragedd a'u Plant, yn garcharorion ar ei bwrdd. Yno dyoddefasant gyni ac angen- °ctid dirfawr. Glaniwyd hwy yn mhen tair wythnos yn Monte Video ; ac er mawr syndod a llawenydd iddynt cawsant fod y Duff, gyda'n gwragedd a'u plant/wedi cyraedd yno yn ddyogel o'u blaen. Wedi mwy