Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDD.ION DA. CYF. II. RHIF. 22.] HYDREF, 1893. [Ail Gyfres. EIN CENADON NEWYDDION. eYN y bydd y rhifyn hwn yn nwylaw ein darllenwyr, bydd dau Genadwr newydd, yn nghyda'u gwragedd, ar eu mordaith am Fryniau Khasia. Fel yr hysbyswyd yn y rhifyn diweddaf bydd Dr. Edward Williams a'r Parch. E. H. Williams yn cychwyn ar y 25ain o Fedi yn y City of Vienna. Achos o lawenydd digymysg i'r eglwysi yn y wlad hon, ac yn enwedig i'r Cenadon a'r Cristionogion ar y Bryniau, fydd yr ychwanegiad hwn at nifer y gweithwyr yn y rhan hono o Winllan yr Arglwydd. Bydd eu cyfeillion a'u cydnabod yn gweddio llawer drostynt yn ystod eu mordaith, yn gwylio eu symudiadau, ac yn teimlo dyddordeb ynddynt hwy a'u gwaith wedi iddynt gyraedd meusydd eu llafur, Credwn mai derbyniol iawn gan eu cyfeillion, ac yn enwedig gan rai na chawsant y fantais o'u hadnabod wrth eu hwynebau, fydd cael dar- luniau o honynt, yn nghyda'r ychydig fanylion canlynol mewn perthynas iddynt:— Dr. Edward Williams. Mrs. Edward Williams. DR. EDWARD WILLIAMS. Mab ydyw ef i Sem a Margaret Williams, Corwen, Sir Feirionydd» Ganwyd ef yn Nghorwen yn Rhagfyr, 1866. Treuliodd rai blynyddoedd gyda meddyg yn ei dref enedigol. Dechreuodd bregethu tua diwedd 1887. Bu flwyddyn yn yr Athrofa yn y Bala, ac aeth oddiyno i Lundain i astudio ar gyfer bod yn feddyg. Graddiodd fel meddyg yn mis Mawrth diweddaf. Ordeiniwyd ef hefyd i gyflawn waith y weinidogaeth yn y Bala ddechreu y flwyddyn hon. Felly y mae ef yn myned allan yn feddyg ac yn weinidog ordeiniedig. Bwriedir iddo ymsefydlu yn Jiwai, i ofalu am yr hospìtal a adeiladwyd yno er's blynyddau yn ol, ac i wneud cymaint ag a all o waith cenadol 301 y cylch hwnw.