Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRADDODIADAU. Tri pheth sydd yn cyfansoddi gogoniant unrhyw wlad— gwirionedd ei darganfyddiadan gwyddonol a chelfyddydol, doethineb ei defodau cymdeithasol, ac ysgrythyroldeb ei haddoliad crefyddol; ond y mae traddodiad wedi andwyo gwledydd yn y tri golygiad ýma. Meddylier am y dyfeis- wyr, o Archjnedes i lawr hyd Bessemer, gan gymmeryd i ystyriaeth Pythagoras, Sturtervant,. Ffrank-Bramäh, Maudsley, Naysmith, &o., ae os myner, edrycher ar ddam- eaniaethwyr y byd meddyliol, megis Leibnits, Plato, Loc- rates, a Bacon. Gorfu iddynt ddyoddef y wawdiaith fwyaf wenwynig, a rhai o honynt ddrygsawr gwaelodion y carch- arau, ac awch eithaf y cleddyfau, am eu bod yn meiddio egluro gweithrediadau deddfau yn y byd materol a medd- yliol yn groes i opyniynau y tadau. Druan o Columbus, cafodd ei gyhoeddi yn heretic gan gynnadledd o ddoctoriaid Salamanca, am gyhoeddi ei ddarbwylliad o fodolaeth cýf- andir^mawr i'r gorllewin o Benryn Lnsitania. Gorfydd- wyd Galileo yntea i wadu athrawiaeth Copernicus am gylch-droad y ddaiar, er y credai hyny mor sicr a'i fodol- aeth ei hun. Fe fuwyd yn hir iawn yn gosod yn mhen y byd oll, ac y mae yn amheus a ydyw wedi cyrhaedd pen draw y byd eto, mai y ddaiar oedd yn troi o gyleb yr haul, ac nid yr haul o gylch y ddaiar, dim ond oblegyd fod tradd- odiad y tadau yn dysgu yn wahanoL Ymdrechid llindagu y ddysg newydd yn ei phlentyndod. Megis ag y darfu i'r