Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y FFENESTR/- U fì -3 CYF. II. IONAWR, 1874. RHIF 1. Y PENTEWYN ACHUBEDIG—CANON GRASSI. /ìfYMMERIAD mwyaf poblogaidd y Byd Cristíonogol ar K]J hyn o bryd, yw Paolo Cavaliere Grassi. Dy- ddorir y byd rhamantyddol, er ys misoedd, gan yr Hawlydd Tichborne; difyrir y cylchoedd milwrol gan yr anffodus Bazame; a synir y galluoedd gwleidyddol gan arwriaeth feiddgar a llwyddiannus Bismarck: ond mwy dyddorol i Gristionogion, mwy difyrgar i engyl, a mwy arwrol gan Dduw, yw troedigaeth chwyldroadol y dyn rhyfedd hwn • Mae ei argyhoeddiad dwfn yn ein hadgofio am Saul o Tarsus ar ei fifòrdd i Damascus; ei arwriaeth yn ein cymdeithasu â Luther ar y ífordd i Worms; ei feiddgarwch yn dwyn i'n cof John Knox o flaen y frenines a'r llys; ei hyawdledd o flaen y chAvil-lys yn ail adrodd i ni y cewri merthyrol gynt î a'i symlrw}rdd Cristionogol unplyg yn ein cofio am Ioan y disgybl anwyl. Tebygol fod Grassi yn awr yn agos 5 0 mlwydd oed: gan- wyd ef yn Rhufain; sîglwyd ef yn nghryd mam ffieidd-dra y ddaear; sugnodd fronau gwenwynig y Babaeth. Bu yn Offeiriad Pabaidd am 36 o flynyddau, yn gweinyddu yr offeren, yn dwyn penydiau, derbyn cyffesiadau, trawsylweddu y bara a'r gwin, duweiddio dynion, seineiddio gwragedd, a dystrywio eneidiau!! Yn ystod ei fy\vyd offeiriadol, ennill-