Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EURGRAWN MON, »Eü '-', _, , ■',.. • ■'- s;* 4'i DR YSORFA HANESYDDAWL. RHir. 4.] 30 EBRILL, 1826. [Gwerth Sc. ******** Mon hardd dirian deg, Gain dudwedd fam gwyndodeg." Gro. Owek. coriow Y FLWYDDYN 1775,—16 GEO. III. YR oedd rhyfel ddychrynllŷd yn cael ei chynnal trwy ystod y flwyddyn hon rhwng y Mooriaid ac yr Yspaeniaid : bu dinystr echrydus ar lynges yr olaf yn ei chais o ymosod ar Algiers. Yr oedd Rhufain yn dra phrysur yn y gorchwyl o ddewis pab yn lle Ganganelli: ond gwedi amryw eisteddfodau, syrthiodd y coelbren ar ran y penadur Braschi, gwr ganedig o Cesarea; yr hwn dan enw Pius VI. a gafodd agoriadau Pedr. Mynodd hwn leihau nifer y Mynachod, ac hefyd gwareiddio ychydig ar gyfreithiau y Chwil-ly^. Ffrainç oedd led gyrmyrfus gan brinder bara. Ceisiodd TurgoHy prif weinidog ac eraill ddiwygio rhai pethau pwysig gwladwriaethol, ond methodd y cynlluu. Denmarc oedd yn cael cilwg Prydain am ei hymarweddiad brwnt tu ag at ei hrenines, chwaer ei Fawrhydi Geo. III.; ond gwnaeth . -t % ychydig o'r rhwyg i fyny trwy wrthod danfon unrhyw ddefnyddiau i'r Americaniaid tu ag ddwyn yn mlaen y rhyfel yn erbyn Lloegr. Poland, ar iddi lwyr ymostwug i'w threiswyr.cymydogol, a-fwyn- haodd heddwch ; ond braidd wrtti rànu yr yspàil nad oe#d *ÿ'tf èTrswyr yn barodi gẁfF: oedran mawr brenin Prussia a roes gare'g ar y ffagl. Portugal ac Yspaen oeddynt hefyd yn ymgecrü o berthynas i derfynau rhyngddynt yn Neheubarth America; Jésuitiaid y naiìl, a Mynachod y Ilall oeddynt achlysur y gecraeth; ond rhànu yr ymrafael a wnawd, a heddwch a ddilynodd. Ymerodraeth y Twrc oedd megis tý wedi ymranu yn ei erbyn ei hun : y Pachas yu yr Aipht, Algiers, a Morocco oeddynt anffyddlon i'w harglwydd; a bwyall a boncyff oedd y canlyniad nes y taweiodd y derfysg. Bygythiwyd Bohemia a Morayia â rhyfel gartrefol; gan i'r werin gyffredin oedd yn gorfod treulio y rhan fwyaf o'u hamser yn cyweirio y prif-ffyrdd, gyfodi megis un yn'erbyn eu gorthrymwyr, a dechreu ymosod ar anneddau a daoedd eu harglwyddi: ond y Llywodraeth yn cymeryd eu haohos dan ystywaeth, adferwyd trefu heb lawer o golli gwaed. ;. ; ' u . ........