Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETHOLYDD. I3F*A gyhoeddir yn fisol; 25 cent am 6 mis, i'w talu yn ddi-eithriad yn mlaen Uaw.^gf Cjt 1.] REMSEN, N. Y., RHAGFYR 16, 1850. [Rhif. 6. Profwch bob peth; deliwch yr hyn sydd dda." DYFBRU BRASDER. (0V Oronicl.) " A'th lwybrau a ddyferant frasder," Salm 65: 11. Cân i'r tymhor haf yw y Salm hon. Gallem gasglu iddi gael ei chyfansoddi wrth weled y cynar wlaw yn disgyn. Gwnaeth dair blynedd o newyn yn amser Dafydd, o herwydd y sychder. Baraa Uawer i'r gân hon gael ei hysgrifenu ganddo pan y defnynai'r nefoedd wlith y tymhor cyntaf wedi hyny. Gwlaw yw ei brif destun. Anhawdd dychymygu am ddim mor adfywiol a gwerthfawr, a chawod o wlaw ar ol hir sychder. Mae y blod- au fel pe byddent yn ymgodi o farw i fyw i'w chroesawu, a'r glaswellt fel pe yr ymollyngent i wylo o ddiolchgarwch am dani. Pe byddai gan ddyn ddim dawn prydyddu anhawdd peidio canu penill am y fath fendith. Nid rhyfedd gan hyny i'r testun daro archwaeth bardd mor nodedig, a chredadyn mor dwymgalon a'r brenin Dafydd. Nis medrwu ymattal heb ddyfynu ychydig linellau. " Yr ydwyt yn ei mwydo â chawodydd, Ac yn bendithio ei chnwd hi. Dyferant ar borfeydd yr anialwch, A'r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. Yr wyt yn ymweled a'r ddaear, ac yn ei dyfrhau hr; Yr wyt yn ei ehyfoetbogi yn ddirfawr ag afon Duw yr hon sydd yn llawn dwfr." Mae gwahanol dybiau pa beth a feddylir wrth " afon Duw." Nilus yr Aifft, medd rhai; yr Ior- ddonen, neu un o afonydd Cauaan, medd eraill; ond mwy barddonol, ac felíy cysonach â'r adnodau cyìchynol, yw barnu mai y cymylau a feddylir wrth " afon Duw." Mae gan Dduw afon yn rhedeg yn ol ac yn mlaen ttwch ein penau. Mae hono yn " Uawn dwfr," os na bydd ef yn cau y llifddorau. Mae ein hafonydd ni yn cyfodi yn y mynyddau, ac yn rhedeg i'r moroedd; ond mae afon Duw yn cyfodi yn y moroedd, ac yn rhedeg i'r mynydd- oedd. Rhed yn ddigon uchel i ddyfrhau copäau y Gader a'r Wyddfa, yr Alpau a'r Himalaya. Medr Daw droi rhedfa ei afòn fel y tnyno, mor es- mwyth a throi y gwynt. Afon Duw, a red uwch ein penau, yw gwir ffynonell pob afon araü. Bnan y sychaut os na bydd dwfr yn rhedeg dros geulan- au ei afon ef j'w cadw yn llawnion. Yn nechreu adnod eín testun, cymherir y fîwyddyn i frenines, a dywedir fod Duw yn ei choroni â daíoni. Genir y fiwyddyn yn Ionawr. Coronir hi ddechreu yr haf, yn nghanol ei dyddiau. Yn Hydref syrth y goron oddiar ei phen, a buan y trenga. Costiodd coron Victoria filiwn o bunnau: ond er mai coron o ffodau a ffrwyth rydd Duw ar ben y flwyddyn, mae yn werth hono filiwn o weithiau. Gwna gor- on newydd iddi bob deuddeg mis, ac nid yw yn trethu neb tuag at y draul. Rhaid fod Duw rhag- luniaeth yn gyfoethog iawn! Y Goruchaf â'i law ei Irun sydd yn rhoddi y goron ar ei phen. Nid rhyfedd fod preswylwyr ein trefydd a'n dinasoedd yn dylifo i'r wlad yn misoedd Gorphen- af ac Awst i weled y flwyddyn dan ei choron, ac i gael byr olwg ar eín brenines yn myned heibio. Mae ein testun yn cyfeirio yn benaf at ragluniaeth Duw; ond gellir cymeryd ei lwybrau eraill i fewn, a dy wedyd, " Dy holl lwybrau a ddyferant frasder." Nodwn ei lwybrau yn Rhagluniaeth—Iachawdwr- iaeth—a Gogoniant. 1. Rhagluniaeth. Mae y Uwybrau hyn mor luosog fel mai anhawdd penderfynö pa le i dde- chreu nac i ddiweddu, ond nodwn— JËi Iwybr yn y môr. Beiddiwn ddweyd am hwn, er nas gwelsom, y gwyddom rywbeth am dano. Mae yn y môr greaduriaid fyrdd—" Yno mae ym- Iusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain amawrion." Yno mae y lefiathan yn chwareu. Mae yno rai mor fychain nes ydynt yn anweledig, a rhaî mawr- ion aruthrol. " A'r rbaì hyn oll a ddysgwyliant wrth Dduw am roddí iddynt eu bwyd yn ei bryd." Nid peth bach feddyhem ni yw cael un pryd i'r creadur a ddarlunia Job, pen, 41. Mae yno wa- hanol archwaeth. Cyfeiríant bob ffordd i ymofyn am fwyd i ond uid oes yr un yn ìnyned i un man na bu Duw o'i ffaen yn parotoi ar ei gyfer. Yr yd- ym yn casglu nad rhyw fwrdd cul iawn mae efe yn daenu i deulu yr eigion mawr: oblegid mae pob pyBgodyn a weìsom erioed yn cael ei gyfodi o'r môr yn edrych gystal a phe buasai wedi ei besgi i'r Uaddfa. Eì Iwybrau yn y pridd, ac ynyr awyr. Pan â yr amaethwr i aredig, neu y garddwr i droi y dy- warchen â'i bâl, gwel fod yno dèulu lluosog yn preswylio y pridd; diau fod pob troedfedd o ar-- Welẃ Newspsper—postage in th« State I cent; to other Sttte» 1J eents.