Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETHOLYDD. gyhoeddir yn fisol; 50 cent y flwyddyn, 25 cent am 6 mis, i'w talu yn ddi-eithriad yn mlaen Uaw. Cyf. 1.] REMSEN, N, Y., IONAWR 16, 1851. [RMf. 7- Profwchbob peth; deliwch yr hyn sydd dda." Y GAUAF. " A'r gauaf oedd hi," Ioan 10: 22. CO'r Cronicl.) A'r gauaf yw hi, ond y mae llawer tymhor wedi myned heibio er gauaf y testun, a phob un yn llaw- forwyn ufudd i'w Harglwydd, a gwasanaethgar i ninau. Mae y gwanwyn yn ei gwisg werdd fel y chambermaid yn dyfod i alw ar y teulu i godi; a cheir eu gweìed hwythau oll gyda'r alwad yn de- chreu ymysgwyd. Yr adar fel plant bach yn y gwely ben boreu yn dechreu canu; a'r blodau yn ymwthio allan, daw eu penau i'r golwg o dan y cwrlyd gwyrdd. Dacw y lawforwyn ffydd- lon yn tynu y dresses amry wliw o'i wardrobe fawr, ac yn gwisgo y rhosyn yn goch, y lili yn wyn, a'r briallu yn felyn; a chymaint o amrywiaeth nad oes acw ddim dau yr un fath wisg. Ac wedi iddi orphen ei gwaith, dacw yr haf fel cooìi yn parotoi *; ymborth i'r teulu lluosog. Yn y tymhor hwnw o'r flwyddyn yr ydym yn cael myned drwy gegin natur, ac O yr olwg lawn sydd arni! a hynod mor ofalus y mae pob peth yn cael ei drin. Ni rydd hi ddim o'i llaw wedi crasu gormod, na dim heb rost- io digon: ond pan y maent yu addfed, dyiia hi yu gorphen ei gwaith ac yn myned o'r golwg. Wedi hyny daw y cynhauaf fel y waiter; deil y trays llawnion o flaen y teulu, a chyfarcha hwy yn gar- edig, Helpiwch cich hunain. Sylwch arni dipyn, cewch ei gweled hithau yu gwaelu dan y baich mawr sydd ganddi; y mae yn y darfodedigaeth— dacw hi wedi marw ! Yna dacw y gauaf yn dy- fod yn ei du fel pe byddai mewn mourriing ar ol y morwynion eraill, dan ganu y gloch i alw ar y teu- lu i'w gwelyau; a dyna lle y maent yn awr, " a'r eira yn cael ei roddi fel gwlan" i gynhesu y ddaear. Gaüaf natur. Y mae llawer wedi cael y ty- mhor hwn ddengwaith ar hugain drosodd heb wel- ed Duw ynddo o gwbl. Y mae Duw yn dangos ei hun yn y gauaf, ac y mae y pur o galon yn ei wel- ed. Yn gweled— Ei allu anfeidrol. Y gwynt nerthol a'r dymhestl sydd yn rhuthro dros y ddaear yn dyuoethi y coed- ydd, ac yn ysgythio y Hongau ar yr eigion fel meddwon—efe syEd yn ei ddwyn allan o'i dry- Borau, ac yn ei gau yn ei ddwrn. Y mae natur yn y tymhor yma yn caeî ei dyosg ö*î harddwisg; a'i hamddifadu o'i thlysau, ac fel gweddwìyn eistedd yn ei galar, tra mae'r gwynt ar un llaw, fel o gyd- ymdeimlad yn ocheneidio nes y mae'r cestyll jn crynu, a'r cymylau, ar y llall, yn wýío nes mae yr heolydd yn ffrydiau. Pa baem yn " myned i eig- ion y môr," ac yn gallu " rhodio yn nghilfachau y dyfnder," gwelem yno amlygiad o'i aLu anfeidroj yn cynhyrfu y creadur mawr hwnw nes y mae mewn convusion drwyddo; weithiau yn ymgodi fel mynyddoedd. pryd arall yn ymdaenu nes y gellid braidd weled mattress ei wely ; ond rhaid iddo ar- os yno, y mae ei feistr wedi gosod erchwyn fel na ddel drosto. Beth pe gallem fyned i " drysorau yr eira, a gweled trysorau y cenllysg;" beth yd- yw y store sydd yno ? Pan y mae efe yn " dweyd wrth yr eira, bydd ar y ddaear," dacw bob peth yr un lliw yn union. Yn yr haf y mae ambell goedenfel pe byddai yn favorite, fel yr oedd Jo- seph gau Jacob, ac yn cael siaced fraith; a hynod mor brydferth fydd brithder eiaced ambell goeden yn yr haf; ond yn y tymhor yma, gall y pren mwyaf diwerth yn y goedwig, sefyll yn ymyl y winwydden ffrwythlon, a dweyd, Mae fy nghôt i cyn hardded a dy gôt dithau. Y mae cystal gan fy nhad am danaf fi a thithau yn y gauaf beth byn- ag. Y mae y ffrwd ddiwyd yn cael ei dal ar ei thaith. Llawer bryn a ymledodd, a llawer myn- ydd a ymgododd i geisio eu dychrynu a'i rhwystro adref, ond mynai ei ffbrdd er gwaethaf pob peth ; ymgodai drostynt, neu gweithiai ei ffordd heibio iddynt tua'r môr: ond yu y tymhor yma gwelwn hithau wedi ei chadwyuo wrth ei glànau, ac yu gorfod aros. " Y dyfroedd a guddir megys â char- eg " na fedr un anifail ei gael, " a wyneb y dyfu- der a rewodd." Y mae rhyw un wedi bod mewn trafferth fawr ? Na, " â'i wynty rhydd Duw rew, a lled y dyfroedd a gyfyugir;" dyna " law dyn yn cael ei selio, fel yr adwaeno pawb ei waith ef." A phan y myno, " â'i wynt y chwyth efe, a'r dyfr- oedd a lifant" mor brysnr ag erioed. Ei ddoethineb annherfynol. Y mae ei weithred- oedd ef yn lluosog, ond y maent oll mewn doeth- ineb. Ceir ambell i greadur afresymol yn cael ei ddysgu gau reddf i ddarparu erbyn y tymhor hwn, Welsh Newspaper—postage in the State 1 eent; to other States 1| cents.,