Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YDETHOLYDD E^*A gyhoeddir yn fisol; 50 cent y flwyddyn, 25 cent am 6 mis, i'w talu yn ddi-eithriad yn mlaenllaw.,. Cyf. 1.] REMSEN, N. Y., MEHEFIN 15, 1851. [Rhif. 12. Profwch hob peth; deliwch yr hyn sydd dda." Y CENHADWR. —Rhif II. EI FORDAITH. (O'r Cronicl.) Y inae pob petb yn barod. Y inae diwrnod troi allan wedi ei gyhoeddi. Na; y mae un peth eto ar ol. " Nid da bod dyn ei hunan." A oes yr .un chwaer grefyddol o'r un feddwi ag ef a fyddai yn ymgeledd cymhwys iddo ? Y mae rhyw un wedi lled awgrymu byny, gyda gwylder teilwng o angyles. Yr oedd yr uu peth wedi dirgel lechu yn ei fynwes yntau. Y rhai a gysylltodd Duw, na •wahaned dyn. Cydweithwyr yn yr uu wiullau— cyd-ddyoddefwyr yn yr un profedigaethau—cyd- deithwyr tua'r uu wlad—a chydetifeddion o'r un addewid. Y mae y lloug i gychwyn ar y dydd amodol. O'r goreu, y mae pob peth yn barod heddyw. O, dyma olygfa hynod—beth yw y cyffro mawr? Wel, y Cenhadwr sydd yn troi allan. Dichon ei fod yu gadael mam dyner, a thad hoff— efallai ei fod yu cefuu ar gartref clud, a pherthynasau anwyl—hwyrach ei fod yn ymad- ael ag eglwys fagwriaethol, a gweinidogaeth ad- eiladol, ac â chyfeillioii caredig. Y mae gwlad ei enedigaeth yn serchus iawu ganddo. Y mae gan- ddo lawer iawn o gylymau i'w dattod—a raid iddo ymadael à'r cyfan am byth ? A oes modd i'w deimladau ddal ? Cly wch ei brofiad ef ei hun, "Nid wyf yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fyeinioes fy hun, os gallaf or- phen fy ngyrfa trwy laweuydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu." Wrth ad- rodd ei deimlad y mae y dagrau heilltion yn neidio i'w lygaid heb gènad. Bellach dyma " awr y brofedigaeth " wedi dy- fod—y mae cymylau serchawgrwydd i'w dattod— cartref i'w adael—tad, mam, brawd, a chwaer, i ffarwelio â hwy—teimladau i gaeì eu rhwygo— eigion i'w groesi—gwladestronoli'w thirio—poeth- der dyddfawl ac oerni treiddiol i ymryson â hwy. O! fel y mae cant o ddychymygion yn llanw ei fynwes. Y mae rhyw gwmwl yn ymdaenu dros ei enaid—beth ydy w ?—anghrediuiaeth sydd eto yn ymwthio i'w feddwl i greu ofuau, wedi yr holl hyder a fa. " Beth a ddygodd hyn i'm cyfarfod ? Paham na buaswn i yn boddloni yn mynwes fy nghyfeillion, fel fy mrodyr ieuainc crefyddol er- aill ?" Ond y mae yn cael mynyd o hamdden i fyned o'r neilldu i'w weddi ddirgel—y mae y feddyginiaeth yn dyfod i lawr yn union, " Wele, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Amen, dyna ddigon. Pob peth yn dda ; y mae yn codi oddiar ei Huiau, yn ymolchi, ac y mae llawenydd eto yn gwisgo ei wynebpryd. Y mae yn cyfarfod ei anwyl briod. Bore da, y mae yn rhaid myned i lawr at y pier, y mae hi yn ddeg o'r gloch o fewn pum mynyd. Y mae y ddau yn dra annghynefiu â'r môr. Y mae cynhwrf mawr tua'r porthladd, y mae y gwynt yu chwiban yn yr hwylbreni, y mae baneri y gwahanol wledydd yn chwyfio.—Dyma lestri yn dychwel o'u mordaith o'r gwledydd pell; ouid y w eu hwyliau yn rhwyg- edig iawn—y mae ôl ystormydd arnynt i gyd. Dyma nifer o rai eraill wedi eu hadgyweirio yn barod i droi allan. Pa uu ydyw eiu llong ni? dacw hi a'r cyfeillion yn y cychod yn ei cbylchynu. —Y mae y môr yn arw iawn. Pan y mae y ton- au yn ymguro mor ofuadwy yn erbyu y morglawdd yn y porthladd, beth ydynt ar ganol y cefufor mawr ? y mae y môr draw yn ewynu yn gyn- ddeiriog, nid oes dim ond danuedd gwynion y ton- au i'w gweled, gydag ambell long ar ei dychweliad yn siglo yn arswydol rhyugddynt! Wel, wel, nid oes dim i'w wueud bellach, efaUai ein gwaredir oddiwrth y peryglon oll. Ho! dyma alwad iddo ddyfod ar y bwrdd. Now then, meddai y cadben dewr—brysiwch, brysiwch, meddai y mate cibog; ond y mae y dwylaw gwledig a geirwon yn llawen oll. Y mae ei gyf- eillion yn ei hebrwng i'r Hong, yn ffarwelio—tang- nefedd; pawb yn wylo yn dost—rhai yn syrthio ar ei wddf i'w gusanu, ac yn gofidio yn benaf wrth feddwl na chânt weled ei wyueb mwy. Y mae y signal i gychwyn yn cael ei godi, " Hoist anchor." Y mae hithau, y llestr anferth, yn dechreu cyflymu, yn neidio ac yu siglo rhwug y tòuau, ac yn aredig yr eigion yn gwysi, gan adael Uwybr brigwyn ar ei hol, ac yn hèrio yr ystormydd i gyd. Y mae y glauau yn colli yn gyflym o'r golwg. Tra y mae y morwyr yn goblygu y rhaffau, yn clirio y deck, ac BF Welsh Newspaper—poBtage in the State 1 cent; to other States \\ cents.