Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YDETHOLYDD. t^°A gyhoeddir yn fisol; 50 cent y flwyddyn, 25 cent am 6 mis, i'w tala yn mlaen Haw.^JgJ [Rhif. 1. Cyf. 2.] REMSEN, N. Y., GORFHENAF 15, 1851. Profwch bob peth ; deliwch yr hyn sydd dda." CYFEILLION IESÜ. (OV Cronicl.) Ioan 15: 14.—Chwycbwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bỳnag yr wyf yn eu gorchymyn ì chwi." I. Fod pethau wedi eu gorchymyn gan Grist i ni eu gwneud. 1. Credu ynddo, Marc 16: 16; hyny y w, rhoddi cydsyniad calon i'r dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am dauo; gwneuthur derbyu- iad o hono ar gynygiad yr efengyl; ac ymorphwys arno am iachawdwriaeth. 2. Edifarhau am bech- od, Act. 17: 30, hyny yw, galaru o'i herwydd, ei ffieiddio, a'i adael. 3. Ymwadu â ni ein hunain. Ymwadu â'u doethiueb ein hunain, â'n cyfiawn- derau ein hunain, ac â'n hewyllysiau eiu hunain. 4. Dylyn ei esiampl ef yn ei ostyngeiddrwydd, ei ddiniweidrwydd, ei amynedd,ei dosturi, a'i faddeu- garwch. 5. Ei arddel ef. Cymeryd bara a gwin er cof am dano. 6. Caru ein gilydd, Ioan 13: 34. Dyma ei orchymyn newydd.—"Wrth hyn y gwybydd pawb mai dysgyblion i mi ydych." II. Fod gorchymyniou Iesu Grist yn deilwng o'n hufudd-dod. 1. Mab y Goruchaf sydd wedi eu rhoddi. 2. Gwuaeth ef y pethau mwyafdrosom ni. 3. Y mae'r teuluoedd nefol oll yn plygu iddo. 4. Efe yw yr Hwn a ordeiniwyd i farnu y byd. 5. Y mae yn abl ac yn sicr o wobrwyo ein hufudd-dod. III. Y rhagorfraiut o fod yn gyfeillion iddo. 1. Rbydd aml ymweliadau iddynt. 2. Ni attal efe ddim daioni oddiwrthynt. 3. Efe a'u cerydda mewn cariad am eu beiau. 4. Par i bob peth gydweithio er eu daioni. 5. Corona hwy yn y diwedd â gwynfyd ac â gogoniant.—Y diweddar Barch. D. Peter, Caerfyrddin. TREFN ACHÜB. (O'r Cronicl.) Rhuf. 10: 6—9. I. Y mae trefn Duw i achub pechaduriaid yn gwahardd pob dynol ddychymygion. "Na ddy- ■wed yn dy galon, Pwy aesgyn i'r nef?—Neu, Pwy a ddẁgyn i'r dyfnder?" Y mae calon dyn yn du- eddol i geisio dychymygu ac ymholi am ryw drefn arall. U. Ymae ysymledd perffeithiaf yn perthyn i drefn Duw. "Os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu," &c. Cyffesu yn 1. Fod yr enaid yn deim- ladwy ei fod yn euog ac yn golledig. 2. Ei fod yu deimladwy o'i annheilyngdod i gael ei achub. 3. Ei fod o'i wirfodd yn cofleidio holl drefn Duw. 4. Ei fod yn ymlynu wrthi hyd y diwedd. Y mae cyffesu â'r genau yr Arglwydd Iesu yn cynwys proffes gyflawn o Grist yn ei swyddau a'i ordiu- adau; proffes gyhoeddus o hono; a hono yn weith- red am yr oes. III. Y mae trefn Duw i achub yn un dra chyf- leus. "Mae'r gairynagosatat." Nid yw yr efengyl mewn iaith ddwfn ac annealladwy. " Yu dy enau, ac yn dy galon." Mae'r deall yn gallu amgyffred, a'r gydwybod yn argyhoeddedig o'i bwys a'i wir- ionedd.— Y diweddar Barch. W. Williams, Wern. CARU ANGEU. (O'r Cronicl.) Diar. 8: 36.—"Fy holl gaseion a garant angeu." I. Athrawiaeth y geiriau yw, Fod pawb sydd yn myned i uffern yn myned yno o'u bodd. " A gar- ant angeu." 1. O'u bodd y mae pechaduriaid yn dylyn y ffordd sydd yn arwaiu yno. 2. O'u bodd y maent yn by w yn yr esgeulusdra o'r moddion a drefnodd Duw i achub enaid. 3. Y mae parodrwydd meddwl ynddynt i gydymffurfio â phob temtasiwn sydd yu arwain i ffordd dystryw. 4. O'u bodd y maent yn gŵyrdroi moddion achub er eu hyfhau i fyned i angeu—megys haf bywyd, gwaed Crist, amynedd Duw, &c. II. Addysgiadau. 1. Y bydd gwaed pob un fydd yn ol yn y diwedd ar ei ben ei hun. 2. Fod dyn wedi myned yn waeth ei gyflwr na'r anifail dires- wm,—"caru angeu." 3. Fod golwg alaethus iawn ar y byd, oll a'i ogwydd i angeu. 4. Fod dyuion yn gwneud cam à hwy eu hunain nad allai neb arall ei wneud, sef damnio eu heneidiau. 5. Mai dyma fydd eu gwaBgfa yn uffern, eu bod wedi gwrthod Crist, wedi caru angeu. 6. Fod angen- rheidrwydd am ddylanwad Ysbryd Duw i aileni y pechadur sy'n casâu bywyd ac yn caru angeu. 7. Fod cadwedigaeth pechadur yu hollol o ras, a'i ddamnedigaeth o hono ei hun.— Y Parch. W^ Wülianu, Wern. [f£&* Welsh Newspaper—pubhshed monthly.