Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YDETHOLYDD. Cyf.2.] ÍÍP^A gyhoeddir yn fisol; 50 cent y flwyddyn, 25 cent am 6 mis, i'w talu yn nilaen llaw.^Jgf [Rbif. 8. REMSEN, N. Y., CHWEFROR 15, 1852. Profwch bob peth ; deliwch yr hyn sydd dda." A FHA DDIWEDD FYDD I MI? (O'r Dysgedydd.) "It is good to have true thoughts of oorselves,"— W. Dyer. Creadar a dechreuad iddo ydwyf fì, canys bu amser pryd nad oeddwn. A chau fy mod yn bod yn awr, rhaid y bydd rhyw ddiwedd i mi. A pha ddiwedd fydd i mi? Credaf na'm difodir, ac na eyrthiaf i'm diddymdra dechreuol. Beth gan hyny afydd fy niwedd? Bydd yn rhywbeth rhyfedd ac ofnadwy. " Ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed," ac felly bydd fy niwedd yn rhyfedd ofnadwy! Pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiu- iwyd yn iselder y ddaear, ni chuddiwyd fy syl- wedd oddiwrth fy Nghrewr. Yr oedd ei lygaid yn gweled fy anelwig ddefnydd pan nad oedd yr un o honynt. Ac yr oeddyut yn ysgrifenedig yn ei lyfr ef y dydd y lluniwyd hwynt. Ei ddwylaw ef a'm gweithiasant i, ac a'm cydluuiasaut o am- gylch. Fel clai y gwnaeth efe fy nghorph i— tywailtodd fi fel llaeth—ceulodd fi fel caws— gwisgodd fi â chroen ac â chnawd—diflynodd fi âg eugyrn ac â g'iau—darparodd fy wyd a thrugar- edd i mi, ac ymgeledd i gadw fy ysbryd—a gosod- odd amser nodedig i mi, ac y mae rhifedi fy mis- oedd gydag ef! Ai tybed y bydd rhyw ddiwedd i mi, a miuau yn greadur mor ofnadwy a rhyfedd? Ah, bydd, bydd! Gorchfygir fi yn dragy wydd. fel yr elwyf ymaith. Newidir fy wyneb, a danfonir fi i flfordd. Ni ddychwelaf mwy i'm tŷ, a'm lle nid edwyn fi mwy. Y llygaid a'm gwelsant ni'm gwelaut mwyach. Ac ni chlyw clust fy ymad- roddion yn y ilwch lle y gorweddaf. " Canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb yn y bedd, lle yr wyf fi yn myned." O lety tywyll a du! O fangre wleb ac oer yw tŷ fy hir gartref! "Tir tywyllwch fel y fagddu, a chyggod angau, a heb drefn, lle y mae y goleuni fel y tywyllwoh." Er hyny rhaid i ti aros yDddo, fy nghorph cu, hofF, ac anwyl, hyd oni ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef; a dyfod o hono ar y cymylau gyda nerth a gogoniant mawr—" y dydd a'r awr nis gwyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig." Heblaw hyny, y mae ysbryd mewn dyn; ac fel dyn y mae ysbryd ynof finau. " Ysbryd Duw a'm gwnaeth i—anadl yr Hollalluog a'm bywiocaodd i—ac ysbrydoliaeth yr HolJalluog sydd yn gwneuthur i mi ddeall." Ac O, fy ysbryd, fy enaid anfarwol, pa le y byddi di? Ehaid i ti fyw er i'm corph farw, a byw ar wahan oddiwrtho ef. "Y pridd a ddychwel i:r ddaear fel y bu, eithr at Dduw yr hwu a'i rhoes ef y dychwel yr ys- bryd." Bydd Duw wedi dy gasglu di, fy ysbryd, ato ei hun cyn y cesglir y corph hwn gan fy mhobl at genhedlaeth fy nhadau. Gan hyny, atolwg, pa ddiwedd fydd i ti? Canys ti a wyddost y dichon Duw ddystry wio enaid a chorph yn uflern. Ac yr ydych yn euog o farn eich dau, canys pechasoch yn ddirfawr yn erbyn Duw. Mae y gydwybod 6ydd rhyngoch yn tystio, a saif yn dyst cyflym yn eich erbyn ddydd y farn, "oni edifarhewch fel y dilëer eich pechodau, pan ddelo yr amseroedd i orphwys o olwg yr Arglwydd." A chan eich bod yr awr hon heb ysgar oddiwrth eich gilydd, a bod eich tragywyddol wynfyd neu wae yn ymddibynu ar eich byw presenol, a gaf fi genych, 0 fy anwyl gorph a'm henaid, ystyried eich diwedd, a bod yn ddoeth i iachawdwriaeth ? Gwyddoch fod genyf gymaint o serch at y naill a'r llall o honoch, canys chwychwi yw y ddau sydd yn fy ngwneud i yn un dyn, cyfrifol i Dduw mewn barn. Ac y mae ofu ac arswyd bod yn golledig yu peri i mi ymddy- ddan â mi fy hun. Ymdrechaf yru eiddigedd arnaf fy huuan, os gwel Duw yn dda fy nghynorthwyo, ì'hag colli fy nghorph a'm henaid. I. MAK TN RHESTMOL IAWN I MI FEDDWL àM FY NIWEDD. 1. Am fod y diwedd a mìnau yn sicr o gyfarfod ä'n gitydd. Mae torf fawr o rai ddaeth i'r byd ar fy ol i wedi cyfarfod â'u diwedd. Nid oes ond megys cam rhyngof finau âg ef, ac ni allaf osgoi rhagddo. Er nas gwn ddydd fy marwolaetb, eto gwn y byddaf fi farw yn ddiau, "Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth, ac i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw." Pa ŵr a fydd byw, ac ni wel farwolaeth? Neb, mwy na minau. "Canysgan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir." Mae angeu yn y crochan mor wired a'm bod yn fyw. A chan ei fpd ef yno, efe a*m lladd yn ddi- au, os nad yn ddirybudd; oblegid colyn angeu yw Welah Newspaper—publîahed monthly.