Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YDETHOLYDD. I3F*A gyhoeddir yn fisol; 50 cent y flwyddyn, 25 cent am 6 mis, i'w talu yn mlaen llaw.e Cyf.2.] REMSEN, N. Y., MAI 15, 1852. [Rhif. 11. Profwch bob peth ; deliwch yr hyn sydd dda." MES. TIBBOT, LLANFYLLIN. (O'r Cronicl.j Mynych eìn gelwir i weini i gyfeillion hoffusaf ein mynwes pan yn eu hymdrech ag angeu; ac aml y dygîr ni hyd làn y bedd i syllu, a'n calon yn drom, a'u llygaid yn ffynonau o ddagrau, ar eu gweddillion yn cael eu gollwng i'w Uety cul hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Boreu dydd Gwener, Ionawr 16, ymadawodd ein tirionaf fam, Mrs. Tibbot, â holl ofidiau taith flindorus yr anial, ac ehedodd ei hysbryd i'w artref dedwydd yn 58 oed. " Ei haul a fachludodd tra yf oedd hi eto yn ddydd." Collasom un a garem yn gu iawn, un a wyliai drosom ar bob cam, ac a ■weinyddai er ein cysur bob amser. Parod ydym iddywedyd"na fu gofid neb fel ein gofid ui." Bto ni fynem alaru fel rhai heb obaith, " Canys gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwol- aeth ei saint ef." Y mae gobaith ei gweled eto ya yr " adgyfodiad gwell," wedi ei gwisgo ar ddelw ei Brawd hynaf, a chael uno gyda hi, ac eraill a'i blaenasant, i ganu yn ddiddiwedd i Dduw ac i'r Oeu. Ganwyd Mrs. Tibbot yn y Maesnewydd, ger Talybont. Yr oedd ei rhieni, Richard ac Eliza- beth Morgans, a'u teulu, yn un o'r teuluoedd mwy- -af parchus yn mlaenau swydd Aberteifi; ond uid ymddengys iddi roddi fawr o hyder ar ddâ y byd hwn. Hynododd ei hun yn foreu gyda chrefydd ; ac nid gormod dweyd mai ei dyddiau boreuol, pan yn *' Anne Morgans o'r Maesnewydd," oedd y rhai a'i hynodent fwyaf mewn gweithgarwch. Yr oedd *Ì-chlod trwy holl eglwysi y gymydogaeth, a'i henw y» adnabyddus i holl weinidogion y wlad. , B* fod ei helyution boreuol yn addysgiadol, rhaid i ni eu gadael, gau eu bod eisoes wedi eu darlunio mewn cyhoeddiad arall. Ni chafodd fawr o addysg ■crefyddol pan yn ieuanc : yr oedd eu rhieni, fel y rhaa fwyaf o'u cydardalwyr, mewn cysylltiad âg Eglwys Loegr, ac yn dra gwrthwynebol i ymneill- duaeth. Pan nad oedd Miss Morgans eto yn ugain mlwydd oed, ỳmwelodd yr Arglwydd â hi mewn »Qdd tra hynod. Bygwyddodd fod ydiweddar Barch. Mr. Griffiths o Hawen yn pregethu ar y tnaes ger Talybont, ac aeth Miss Morgans i wran- daw, a'r bregeth hono a effeithiodd ar ei meddwl, a pheuderfynodd fwrw ei choelbren gyda'r Anni- byuwyr. 0 gylch yr amser yma ymddangosodd rhy wbeth tebyg i weledigaeth iddi. Gwelai angel (yn ei thyb hi) mewn gwisgoedd gwynion yn ym- aflyd yn ei llaw, gan ei harwain mewn anial per- yglus: yroedd y llwybr mor gul fel nad oedd ond priu le iddi roi ei throed i lawr; ac wedi teithio am gryn amser yn lìaw yr angel, yr oedd yn mhen draw y llwybr cul afon fawr donog a dofn : pan yn sefyll ar ei glàn, gwelai harddlu mewn gwisg- oedd gwynion yn sefyll ar y làn draw yn ei dys- gwyl drosodd; ac wrth edrych ar yr afon, dywed- ai wrth yr angel ei bod yn ofni syrthio i rym y Uif. Dywedai yr angel yn garedig wrthi am beidio ofni, ond rhoi ei throed yn ôl ei droed ef, ac y deuai droBodd yn ddiogel. Meddyliem fod y wel- edigaeth hon, er mai myfyrdod mewn cwsg yd- oedd, yn ddarluniad lled gywir o'i gyrfa trwy y byd helbulus hwn. Bu yn foddion i wroli ei me- ddwl i redeg yr yrfa grefyddol oedd newydd dde- chreu. Yr oedd y gwrthwynebiadau y torodd trwy- ddynt yn fawrion: bygythid gan ei rhieni ei chau allan o'r tŷ os na adawai y capel; ond ni thyciodd dim i ddiffodd ei sel, nac i oeri ei chariad. Aeth yn mlaen yn sicr a diymod, eto yn serchog a char- iadus, nes enill ei rhieni a'r hoü deulu i fod yn bleidiol i grefydd. Cyuyddodd ei dylanwad a'i gwroldeb gymaiut fel yr arferai gadw "dyled- swydd " yn rheolaidd mewn teulu lluosog, ac an- hawdd dirnad y daioui a effeithiodd eu gweddiau. Ei phrif gyfeillion ydoedd gweinidogion yr efeng- yl: yr oedd ei hymgeleddu yn hoff waith ei chal- on: gwnai gyfrif mawr o honynt er mwyn eu gwaith. Y mae Uawer gweinidog i Iesu Grist yn cofio gyda hyfrydwch am gymwynasau Miss Mor- gans o'r Maesnewydd. Carai y frawdoliaeth, ym- hyfrydai yn nghymdeithas dynion duwiol, ac yr oedd eu llafur bywiog gydag achos crefydd yn effaith teimladau dwysion a myfyi*dodau difrifol. Tín y flwyddyn 1828, priododd Mr. Tibbot o LanfyÛin, mab i'r diweddar Barch. Bichard Tib- bot, a bu yn ymgeledd gymhwys iddo; adwya deimla ei golled ar ei hol nes yr â ati i orphwya i'r gweryd. ■ ,- . , ^