Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YDETHOLYDD. gyhoeddir yn fisol; 50 cent y flwyddyn, 25 cent am 6 mis, i'w talu yn mlaen llaw.e Cyf. 2.] REMSEN, N. T., MEHEPIN 15, 1852. [Rhif. 12. "Profwch hoh peth ; deliwch yr hyn sydd dda." (OV Diwygiwrÿ TfiAETHAWD BUDÎ)UGOL ÀR WERTH RHYDDID CREFYDDOL. (Uno destynau Eistedâfod Capel Gwernüwyn, Dowlais, Nadolig, 1851.J " Of all the tyranies of human kind, The worst is that which persecutes the mind; For spite of man's consent or man's decree, A right to life ì& a right to liberty."—Dryden. Y mae pob rhyddid yn werthfawr iawn, er fod y naill ryddid yn rhagori ar y ilall, yn ol natur y gwrthrychau y mae y cyfryw ryddid yn ei ddwyn i feddiant ei berchenog; megys Rhyddid Naturiol,- neu ryddid dewisiad, eef pan fyddo ein hewyllys- iau yn cael eu penderfynu gan hunan-hyfrydwch, ac nid gan unrhyw achos neu ystyriaeth allanol o un natur.* Rhyddid AUanol, neu ryddid gweithrediad, sydd wrthwyneb i drais ar y galluoedd cyflawniadol, ac yn gynwysedig mewn gallu i gyflawni eiu hewyll- ysian. Rhyddìd Athronyddol, sef tueddfryd llywyddol i weithredu yn ol rheolau rheswm, hyny yw, yn y cyfryw fodd ag a fyddo ar bob ystyriaeth yn tu- eddu yn fwyaf effeithiol i ychwanegu ein ded- ' wyddwch. • Rhyddid Moesol, ydyw rhyddid yr ewyllys, neu ryddid i ddewis yn ol ein tueddiadau. Dyma ryddid pob creadur cyfrifol. Rhyddid Gwladol.—Wrth ryddid gwladol yr yd- ym i ddeall, fod holl ddeiliaid yr un deyrnas yn caeì eu rheoli wrth yr un cyfreithiau—fod holl berchenogion rheswm, cystal a pherchenogion cy- foeth, yn cael Uais yn newisiad holl ffurfwyr a gweinyddwyr y cyfryw gyfreithiaa—a bod cyf- lawn hawl gan bob un a ddewiso ddangos ei annghymeradwyaeth i bob cyfraith a farno yn niweidiol, a deiaebu i'r Senedd am ei diddymiad. Rhyddid Masnachol.—Wrth y rhyddid hwn yr wyf ynldeall, oyflawn hawl holl breswylwyr y ' byd i rydd-fiusnachu y naill â'r Uail yn mhob eiddo cyfreithlawn sydd ganddynt, heb ;fod yn ddaros- tyngèdig i un gormes na tìireth. * Gẁel Geiria^ur y Parch. W. Jones, Penyhont. Rhyddid y Wasg, sef cyflawn chwareu têg i'r gwirionedd a'r twyU ymladd dau fywyd ar faes yr argraff-wasg, a bod rhyddid gan bawb a ddewiso argraffu Gair Duw i gyd oll, neu ranau o hono, heb fod dan ormes gorfaelaeth fihydychain na Ohaergi-awnt. Rhyddid Ysbrydol.—Y mae y rhyddid hwn yn rhyddhau oddiwrth felldith y ddeddf, oddiwrth lywodraeth pechod, ac oddiwrth awdurdod Satan. Trwy Grist, a dylanwadau nerthol ei Ysbryd, y mae y rhyddid hwn yn cael ei ddwyn oddiam- gylch. Ond yn olaf— Rhyddid Crefyddol, neu ryddid cydwybod, sef rhyddid i farnu drosom ein hunain mewn pethau crefyddol yn ol Gair Duw, ac i weithredu yn ol ein barn, tra y byddom yn ddeiliaid ufudd a hedd- ychol. Duw yn unig yw Arglwydd y gydwybod, ac iddo ef yn benaf yr ydym yn gyfrifol yn ei holl achosiou hi. "Y Bibl, a'r Bibl yn unig," yw rheol ein flydd a'n hymarweddiad mewn pethau cref- yddol.t At hwn yn unig y dylem fyned â'n tyb- iau ein hunain ac ereiU i'w profi, gan benderfynu eu derbyn neu eu gwrthod, yn ol fel y caffom (wedi dyfal chwilio) eu bod yn cytuno neu yn an- nghytuno âg ef, Esay 8: 20. Dyma y Ehyddid y mae a wnelwyf fi â sylwi arno yn bresenol, sef dangos ei werth. Caf yu awr gynyg ychydig res- ymau er profi ei werthfawrogrwydd. Yn 1. Mae yn edrych yn werthfawr, o herwydd fod Rhyddid Crefyddol yn hawl-fraint cyfreith- lon pob dyn byw. Nid peth ydyw ag y mae y naill ddynsawd yn roddi i'r Uall, ond y peth ag y mae y Duw haelionus yn ei roddi i bawb. I Dduw yn unig y mae pob dyn yn gyfrifol am ei grefydd; gan hyny, dylai gael ffurfio ei gred a'i ymarferiad crefyddol drosto ei hun yn ngwyneb Gair Duw. Mae gan bob dyn hawl gyfiawn i addoli ei Grewr yn y dull y myno, y pryd y myno, ac yn y man y myno, heb hawl gan neb i gynyg ei ddrygu, na'i dreisio i gynal crefydd yn ol fel y barno ei gyd- wybod yn orau ganddo ef ei hun. Pe byddai pob dyn yn cael y rhyddid hwn, ni byddai yn rheidioî iddynt ddiolch i neb am dano ond Duw yn unig. Ni ddylai dyn gonest ddìolch i'r awdurdodau am î Gwel Geüiadur W. Jones, Penybont.