Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IFOB HAEL, Rhif. 1.] IONAWR, 1850. [Cyf. I. ANEB.CHIAD. Anwyl Frodyr a Chydwladwyr, Meibion a Gwroniaid Cymru, Amddiffynwyr Iaith, Gwlad, a Chenedl, Breinniau a Defodau eich Cyndeidiau ! Yn ol eich cais dyma Ifor Hael allan; yn cynnyg o'i drysorau yn haelfrydig i bawb a'u derbyniant, gan obeithio y caiff dderbyniad groesawgar gan holl feibion Gwalia, ac y bydd i gofleidwyr Catwg Ddoeth, Ilywel Dda, Taliesin, ac Aneurin, ei anrhydeddu â'u cefnogaeth drwy gyfranu yn helaeth iddo o ffrwythau eu dyfn fyfyrdodau, a chynnyrch yr Awen orlwythog. Hyderwn, Wladgarwyr enwog, y bydd i chwi fod yn ffyddlon yn yr anturiaeth bresenol. Hysbys yw, fod ein Cym- deithas yn sefyll mewn angen mawr o gyfrwng cyhoeddus perthynol i ni ein hunain, gan nas gallwn, gydag un priodoldeb, hawlio y rhyddid o ddanfon materionperthynoli'nCymdeithas i unrhyw Gyhoeddiad, i'r graddau gofynol; eto, dymunwn grybwyll yn ddiolchgar ein rhwymau i'r Misolion yn gyffredinol, ac yn bendifaddeu i'r Seren. am y parodrwydd a'r groesawiad a ddangoswyd bob amser i Iforiaeth. Dymunwn fawr lwyddiant• i bob cyhoeddiad Cymreig, ac ychwaneg o honynt a ymddangoso, a bydded i ysbryd darllen fyned ar led drwy Gymru, fel y byddo gwybodaeth i orchuddio yr holl dir, ac i symud ymaith y gwarth a deflir arnom fel cenedl. Diameu y bydd rhai dan lywodraeth culni ysbrjd, cybydd-dod, gorwaeledd meddwl, a difaterwch am ddiwyllio y meddwl dynol, yn barod i ddweyd, y mae gormod o Gyhoeddiadau allan eisioes! Pa les yw hyn ? Beth yw dyben pethau fel hyn ? Pa raid wrth hwn, eh ? Yr ateb goreu wrth y cyfryw yw, nad ydynt wedi gweled gwerth gwybodaeth erioed. Y nhwy a'u bath yw yr argeufeydd sydd yn attal Uewyrch gwybodaeth i dywynu ar y wlad—sydd wedi bod yn offerynau i gadwyno rhyddid—yn dadogion pob cam a gormes, ac yn felldith pob gwlad ac oes. Deffrowch, O Gymry clodwiw, ymddiosgwch o'ch cysgadrwydd a'ch difaterwch ! Na oddef- wch i gybydd-dod ac anghymedroldeb i attal ser gwybodaeth i belydru a thywynu ar ein gwlad yn angeu, g^elir rhyddid a rhinwedd yn cymeryd eu hynt, a gormes â'i chyffion haiarnaidd, a'i llyffetheiriau presaidd yn estyn ei llywodraeth dros y wiad. Gwybodaeth sydd nerth—mammaeth rhyddid a rhinwedd—ffynhonell cysur a bendith—harddwch cymdeithas, a gogoniant dynoliaeth—helaethed ei therfynau ac yndeded ei dylanwad nefolaidd; dyna oedd a dyna yw ysbryd Ifor Hael, ac ewyllys ei galon yw, Oes y byd i'r Iaith a Chyhoeddiadau Cymreig. Pell yw ei amcan i wrthwynebu unrhyw Gyhoeddiad Cymreig. Amcenir, drwy gyfrwng Ifou, i ddwyn allan Draeth- odau ar holl ganghenau Athronyddiaeth foesol ac anianyddol, BJiyfeddodau