Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IFOR HAEL Rhif. 3.] MAWRTH, 1850. [Cyf. I. ■ 1*11 i i' ~ • ' í ..... . . , , . , - —^, AR ARDDERCHOGRWYDD YR IAITH GYMRAEG. PARHAD O TÜDAl» 10. AẃN rhaoom i syíwi ar deithi eraill ein Iaith odidog, sef yn 5ed, ar lyíhyraeth a iawn- eiriad. Dosrenir llythyraeth i lythyrenau, sillafion, a geiriau. Mawr mor anffodus y bu ein cyndeidiau yn nygiad i arferiad y llythyrenau dyblyg, ch^ ngh, dd, ff, ng, rh. &c., oblegid rhaid cydnabod eu böd yn anharddu ac anffurfio ein iaith ddiledryw, a braidd na ddigiwn wrth y Cymro clodfawr, y Dr. Davies, am iddo erioed eu dwyn i arferiad, er mai gwladgarwr enwog oedd; eto fe gollodd yn hyn : buasai yn llawer gwell gadael iddi fel yr arferid hi gan Salisbury, Llwyd, Dr. Tuan, D. Rhys, a Dr. Porag.; oherwydd y mae ein gelynion drwy eu defnyddiad wedi cael Ile i arllwys ffrydiau olPHrmyg a chabl- eddau ar yf hen Omeraeg; ac heblaw hvn, y maent wedi bod yn foddion i greuanghyd- fod rhwng ysgrifenwyr goraf Cymru. Pe buasai Tegid aiddgar a gẅladgarol yn gällu gorchfygu ystyfnigrwydd pleidwyr yr hen ddull aneglur ac afluniaîdd, buasai yn ddi- wygiad a gwelliant raawr ar ein iaith, a thawdeb byth ar ei diraddwyr. Ond er hyn ollj rhagorayn mhell ar yr ieithoedd cymydogol, y Saesonaeg a'r Ffrengaeg, yn hyn eto, yn ei chysondeb a rhwydd-deb idd ei hiawn eirio a'i dysgu; oblegid utiwaith y dysgir sair» llythyrenau yr esjwyddor Gymreig, gellir ei darllen gyda'r rhwydd-deb mwyaf, oblegid fod i bob llythyren ei sain bennodol ei hun; ond am y Saesonaeg, gofynir blwyddyn cyn y gellir ei darllen gydag un trefnusrwydd a rheoleiddiwch; a'r Ffrengaeg yn waeth drachefn. Dysger sain y llafariaid yn y Gymraeg, pa rai ydynt saith, a'r arẅyddnod o hirsain, yna medrir ei darllen ; ond nid oes llai nag hanner cant o seiniau amrywiedig i'r Uefar- iaid yn y Saesonaeg, yn nghyd â'u sefyllfaoedd mudseiniol; y llefariaid a'r cydseiniaid ydynt yn aneirif, heblaw defnyddiad o lythyrenau nad oes yr un berthynae rhyngddynt a'r seinìau a roddir i'r çeiriau, fel y gellid meddwl fod doniau a galluoedd Johnson a Sheridan, Walker a Webster, Scc., v»edi eu defnyddio i'r radd eithaf o'u medr er aflun- eiddio ac anffurfio y Saesonaeg, yn hytrach na'i chaboli a'i diwygio, fel y mae yn an- nichonadwy i ddysgedigion seinio ei geiriau yn iawn heb eithriadau annherfynol, Ond. jran fod y bythglodus Goraer, yn ei Weithiau Awdurol, o gasgliad y Cyraro dewr, D. ab RhysStephen, allan o'r wasg, yn Ilawn engreifftiau o ragonaeth y Gymraeg ar y Saeson- aeg ar y pen hwn, awn rhagom i sylwi yn 6. Ar ragoroldeb ei geirdarddiâd. Perthyna i'r rhan hon dair cangen, sef dosparth- iad, treigliad, a tharddiad geiriau. Canfyddir fod y Gymraeg yn rhagori yn mhell ar y Saesonaeg yn hyn, laf, Am ei bod yn meddu cyflawnder o wreiddeiriau, neu eiriau elfenol, fel ag y gellir ffurfio a chyfansoddi geiriau i ateh pob ameylchiad. 2il. Am fod ei thadogiad geiryddol yn naturiol. Y mae y Saesonaeg ŷn ddiffygiol yn y eyntaf, fel y gwelir yo y ffaith o'i bod yiffcymeryd y geiriau yn gyflawn fel y maent oieithoedd erailj. Gwel yn Ngeiriadur Dr. Johnson, a Gweithiau Awdurol Joseph Hârris, y fath luaws o eir- iau Cymreig a arferir yn y Saesonaeg. Ond am enwau llefydd, mynyddoedd, afonydd, trefydd, a dinasoedd, annichonadwy i Sais wybod eu hystyr, heb drwy y Gyroraeg; ac felly hefyd ar y cyfandir dwyreiniol, fel ag y mae dysgedigion Germany yn dyfod i ddechreu dysgu y Gymraeg yn bresenol, er fod llawer Cymro hunanfalch am gladdu ei iaith. Iaith duwinyddiaeth, meddyginiaeth, cyfraith, llenoriaéth, a gwleidyddiaeth y Saeson, yn benaf a gymerwyd o's Ladinaeg, drwy arfeiiad y mynachod; ac iaith «i