Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y SYLWEDYDD. Riiif. 11.] TACHWEDD, 1831. [CYF. I. AM WYBODAETH WYDDORIAETHOL. ARAETH II. Mae rhyw foddâd hyfrydlawn idd ei gael wrth fyfyrio a chwilio am wybodaeth, neu wrth ymdrechu i gael allan y gwir; onidè nid wyf yn meddwl y buasent bobl mor ddysgedig mewn gwa- hanawl wybodaethau ag y maent; can carynt bobl ryw beth presenawl neu mewn gafael yn fwy na pheth dyfodawl neu o bell, er i hwnw fod yn hollol mor sicr: rhaid bod ryw fwyniant mawr mewn gwybodaeth cyn y dalient bobl ati mor ddiflino nos a dydd i chwiliaw am dano; can nid heb eithaf Uafur y mae gw}'bodaeth idd ei gael, nid wrth ddiota a gloddesta, nid wrth gysgu ac ymddi- ogi y ceir gafael arnaw; na, rhaid ymdreuliaw, llafurio yn galed nos a dydd cyn y ceir nemawr o wybodaeth. Ond wedi ei gael allan, disgleiria gyda'r fath rym ar y meddwl, mal y gorlenwn ni â gorfoledd hyfrydlawn ac annhraethawl. Beüi feddylych a wnaeth yr athronydd doeth hwnw, Arcbimedes? Pan wedi ymddiosgi ei ddillad, ac yn ymolchi mewn ymdrochían, adlewyrchodd y íFordd i brofi coron aur brenin Syracuse mor gryf ar ei feddwl, mal yr anghofiodd ei hun i'r fath raddau ag y rbedodd yn noethlymyn yn ìnlaen ac yn ol trwy y dref gan waeddi nerth ei ben "Cefais hi, tefais hi," sef y ffordd i brofi'r goron, er gwybod a ladrataodd yr eurych beth o'r aur a rhoddi ryw ddelid arall yn ei le. Y fath orfoledd a syndawd hyfiydlawn orlanwai y duwiolion gynt, pan y üefent, " Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog. Datganyw y nefoedd dv ogoniant, a mynegyw'r ffurfafen waith dy ddwylaw. Dydd i ddydd draethyw ymadrodd, a nos i nos ddangosyw wybodaeth. Ofnadwy a rhyfedd ym gwnaed, rhyfedd ynt dy weithredoedd, a'm henaid a ŵyr hyny yn 2f