Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFRINACH Y BEDYDDW YR. Rhif. 1.] IONAWR, 1827. [CYF. li . RHAGYMADRODD. YPETH mwyaf ei werth i'w berchenog dan yr höll néfoedd ydyw gwìr grefydu; canys yr unig ẅir Ddüw ydyw ei phrifwrthddrych; santeiddrwydd ydywei hegwyddor; daioni ydyw ei llafur; a bywyd tragywyddol ydyw ei sicr ganlyniad. Y mae duwioldeb, yr hyn ydyw gwreiddyn gwir grefydd yn yr enaid, mor bwysig peth yn sylwDuw, felnaddarfu iddo ef arbed unrhyw lafur na thraul angenrheidiol, mewn trefn i wneuthur ei bobl yn feddiannol arni: canys i'r dyben hyn y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab i'r byd, i larw dros yr eglwys; ac i ateb yr unrhyw ddybenion grasol, y mae yr Ysbryd Glân yn gweithredu yn gadwedigol ac yn santeiddiol yn y saint ar y ddaear, hyd yn bresennol: ac i'r dyben gogoneddus hwn, y rhoddodd ei Fawr- hydi nefol, ei holl feddwl perthynol i ni, fel deiliaid ei lywodraeth foesol, ac fel gwrthddrychau ei gariad tragywyddol, yn yr Ys- grythyrau Santaidd; i amlygu ei hun i'w bobl, yn ysbrydolrwydd ei Hanfod; yn ei ddirgelwch perthynasol, fel Tad, Mab, ac Ys- bryd Glân; yn ngogoniant ei briodoliaethau, ac yn ngoludoedd anchwiliadwy ei ras, fel Ceidwad pechaduriaid. Y mae yr Ys- grythyrau Santaidd yn gorff cyflawn a datguddiedig, o'r holl bethau perthynol i grefydd a duwioldeb, o barth ffydd ac ymar- feriadau: yma y mae yr athrawiaeth deilwng o'r grediniaeth gadarnaf, y görchymynion teilwng o'r ufudd-dod manylaf, yr addewidion teilwng o'r moliant santeiddiaf, a'r bygythion, teilyngaf o gyfiawnder ac uniondeb. Deall, credu, derbyn, a gwneuthur gair Duw, ydyw dyled a braintpob dyn a dynes yn y byd hwn, a'r arwydd sicraf am ddedwyddwch yn y byd a ddaw. Ac i'r dyben gogoneddus o berffeithio y saint i waith y weinidog- aeth hon, fel y gwnelont eu dyledswydd, ac y mwynhaont eu braint, y mae yr Arglwydd wedi rhoddi rhai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon; Eph. 4. 11, 12. a gwaith y rhai hyn oll, yn mhob oes, ydyw dysgu dynion yn yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, trwy egluro ac agoryd iddynt yr Ysgrythyrau: ac fe gyfarwyddwyd yr apostolion i gyflawni eu swydd yn y pethau hyn, trwy bregethu y gair i bawb a gaffent yn gyfleus i wrandaw, a thrwy ysgrifena epistolau neu lythyrau at yr Eglwysì mewn gwahanöl wledydd CYF. I. A