Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YFRINACH Y BEDYDDW YR, Rìu'. 8.] AWST, 1827. [Cyf. L MERTHYRDOD PATR1CK HAMILTON, Y DIWYGIWR CYNTAF YN YR ALBAN. Gwr boneddig iéuangc o'r Aíban oedd Patrick Hamilton, ac yr oedd o achau mor uchel fel y nodir ei f'od wedi disgyn o had brenhinol. O ran ei dad, yr oedd yn nai i Jaraes Hamil- ton, Iarll Arrau; ac o ran ei fam, í'e ddywedir ei fod yn nai i John Stewart, Duc Albany: bu ei uchel achau yn foddion, yn llaw Rhagluniaeth, i godi ei athrawiaeth, ei fuchedd efengyl- aidd, a'i addfwynder dan ei ddyoddefîadau, i sylw mawr gyda mawrion a bychain. Yr oedd yn meddu prydferthwch o ran egwyddor ac ymarweddiad: ac wedi derbyn dysgeidiaeth helaeth: fe'i gwnaethwyd yn Abad Ferme yn foreu iawn, gyda golwg i'w ddyrchafu cyn hir i sefyllfa uwch yn yr eglwys Ga- tholic. Pan yr oedd yn dair blwydd ar hugain oed, fe gym- raerodd daith i Germani, gyda thri chyfaill, gan ymgeisio at ychwanegu ei wybodaeth mewn pethau crefyddol; ac wedi ei ddyfod i Wittenberg, efe a gyf- aríu yno â Luther a Melancthon, â'r rhai y cymmerai gyfle yn fynych i gyfrinachu yn ddwys a difrifol, gyda'r rhai y cafodd lawer o'i hyfforddi yn athraw- iaeth yr efengyl. Aeth oddiyno i Marpurg, athrofa newydd ei sefydlu gaa Philip Landgrave o cyp. i. Hesse: lle y daeth ar fyr yn gyfarwydd â Mr. Lamberí, ein merthyr Brytanaidd; yr hwn y soniasom am dano yn y Cyf- rinach am y mis diweddaf: gydag annogaeth yr hwn y bu efe y cyntaf a gododd ddadl yn yr athrofa hòno mewn perthynas i rTydd a gweithredoeddH Ý mae cynnwysiad y ddadl hon mewn üyfryn bychan o waith Mr. Ha- milton, a elwir Patrick's Places. Ni a geisiwn gael He i gynnwys- iad crynhodeb byr ohonoyny Cyfrinach am y mis nesaf. Felly f e gynnyddodd y r En wog hwn yn ddyddiol mewn gras a gwybodaeth o'r Arglwydd; ac wedi ei sefydlu yn y ffydd, a'i addurno â phob dysgeidiaeth ddefnyddiol, efe addychwelodd gydag un o'i gyradeithion dra- chefn i'r Alban, gydadymuniad, mawr i drosglwyddo gwybod- aeth iachusol am yr efengyl, a'r pethau perthynol i iachaw- dwriaeth dyn i'w gydwladwyr. Gyda golwg ar hyn, efe a dde- chreuodd bregethu efengyl Crist gyda sel, gwroldeb, a hyfdra teilwng o'r gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu; gan ddatguddio, tacnu ar led, a dysgu y bobl i adnabod.llygredigaethau a chy- feiliorúadau dinystriol eglwys Ruí'ain. Ni bu ci bregethau fawr ennyd cyn creu alarwm 2 F